From Wikipedia, the free encyclopedia
Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr (Saesneg: (His Majesty's) Attorney General for England and Wales), a elwir yn gyffredinol y Twrnai Cyffredinol, yw prif ymgynghorydd cyfreithiol y Goron yn Lloegr a Chymru.
Enghraifft o'r canlynol | swydd |
---|---|
Math | twrnai cyffredinol, Law Officer of the Crown |
Rhan o | Cabinet y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1277 |
Deiliad presennol | Suella Braverman |
Deiliaid a'u cyfnodau | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.attorneygeneral.gov.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Twrnai Cyffredinol yn cynrychioli'r Brenin a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y llysoedd, ac mae ganddo ef/hi bwerau arolygol dros erlyniadau, sy'n disgyn dan gyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyniad y Goron. Mae'r Twrnai Cyffredinol hefyd yn cynrychioli'r Goron mewn sawl proses gyfreithiol sy'n ymwneud â materion cyhoeddus, e.e. gweinyddu elusenau a threth incwm. Cynorthwyir y Twrnai Cyffredinol gan Gyfreithiwr Cyffredinol Lloegr a Chymru: llenwir y ddwy swydd hyn gan bobl a apwyntir yn wleidyddol ac mae'n rhaid iddynt fod yn aelodau o un o ddwy siambr Senedd y Deyrnas Unedig. Fel rheol nid yw'r Twrnai Cyffredinol yn aelod o'r Cabinet, ond caiff ei alw i'w gynghori pan fo rhaid. Gan nad oes gan Gymru ei chyfundrefn gyfreithiol ei hun ar hyn o bryd ni cheir Twrnai Cyffredinol i Gymru. Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyfundrefnau ar wahân.
Y Gwir Anrhydeddus Victoria Prentis QC AS, yw'r Twrnai Cyffredinol presennol.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.