Twnnel y Sianel

From Wikipedia, the free encyclopedia

Twnnel y Sianel

Twnnel rheilffordd o dan y Môr Udd yn Nghulfor Dover yw Twnnel y Sianel. Mae'n cysylltu Ardal Folkestone a Hythe yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, â Pas-de-Calais, Ffrainc. Dyma'r unig gyswllt sefydlog rhwng ynys Prydain Fawr a thir mawr Ewrop. Mae'n 50.45 km (31.35 mi) o hyd. Y darn tanddwr yw 37.9 km (23.5 mi) – y darn tanddwr hiraf o unrhyw dwnnel yn y byd. Ar ei bwynt isaf, mae'r twnnel 75 m (250 tr) o dan waelod y môr a 115 m (380 tr) yn is nag arwyneb y môr. Mae'r twnnel yn cludo trenau cyflym Eurostar ar gyfer teithwyr ar droed, trenau gwennol Eurotunnel Le Shuttle ar gyfer cerbydau ffordd, yn ogystal â threnau nwyddau rhyngwladol.

Ffeithiau sydyn Math, Agoriad swyddogol ...
Twnnel y Sianel
Thumb
Mathtwnnel rhyngwladol, undersea tunnel, twnnel rheilffordd 
Agoriad swyddogol6 Mai 1994 
Sefydlwyd
  • 20 Mehefin 1993 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeven Wonders of the Modern World 
SirCaint, Pas-de-Calais 
Gwlad Lloegr
 Ffrainc
Cyfesurynnau51.0167°N 1.45°E 
Hyd50,450 metr 
Rheolir ganGetlink 
Thumb
PerchnogaethGetlink 
Cost15,000,000,000 Ewro 
Cau

Mae'r cynlluniau i adeiladu twnnel o dan y Môr Udd yn dyddio'n ôl i 1802. Dros y blynyddoedd ni ddaeth amryw o brosiectau i ddim. Cytunodd llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Ffrainc i adeiladu twnnel ym 1964, a dechreuodd y gwaith ym 1974, ond cafodd y prosiect ei ganslo ym 1975. Yn y diwedd trefnwyd y prosiect llwyddiannus gan Eurotunnel. Dechreuodd y gwaith ym 1988 ac agorwyd y twnnel ym 1994.

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.