From Wikipedia, the free encyclopedia
Digrifwr, cyflwynydd teledu ac actor o Sais oedd Thomas Patrick O'Connor (31 Hydref 1939 – 18 Gorffennaf 2021)[1]. Cychwynodd yn wreiddiol fel digrifwr mewn clybiau dynion dosbarth gweithiol, ac aeth ei yrfa ymlaen i gyflwyno sioeau gemau fel Crosswits, The Zodiac Game, Name That Tune, Password a Gambit.
Tom O'Connor | |
---|---|
Enw bedydd | Thomas Patrick O'Connor |
Geni | Bootle, Swydd Gaerhirfryn | 31 Hydref 1939
Marw | 18 Gorffennaf 2021 oed) Slough, Berkshire, England | (81
Cyfrwng | Teledu |
Blynyddoedd gwaith | 1970–2021 |
Priod | Patricia Finan |
Gweithiau nodedig | Seren The Comedians a Crosswits ar ITV |
Gwefan | http://www.tomoconnor.co.uk/ |
Mynychodd O'Connor Goleg y Santes Fair, Crosby,[2] a Choleg y Santes Fair, Twickenham.[3] Daeth yn athro mathemateg a cherddoriaeth yn Ysgol St Joan of Arc, Bootle, ac roedd hefyd yn brifathro cynorthwyol.[4] Ar ôl ei ddiwrnod gwaith byddai'n ymddangos fel digrifwr mewn clybiau dynion dosbarth gweithiol.
Daeth ei cyfle cyntaf ym myd teledu pan ymddangosodd ar The Comedians.[5] Yn ystod y 1970au a'r 1980au, roedd yn un o'r wynebau mwyaf poblogaidd ar deledu Prydain. Roedd yn destun y rhaglen deledu This Is Your Life ym 1977 pan gafodd ei ddal yn annisgwyl gan Eamonn Andrews.
Parhaodd i gyflwyno nifer o sioeau gan gynnwys Name that Tune, Wednesday at 8, The Tom O'Connor Show, Gambit, Crosswits, a llawer mwy gan gynnwys The Tom O'Connor Road Show ar gyfer y BBC.[6] Roedd y sioe ddyddiol hon ymlaen dros amser cinio ac roedd dros 12 miliwn o wylwyr yn ei gwylio bob dydd, ond roedd yn sioe ddrud iawn i'w chynhyrchu am iddi ddod yn fyw o dref wahanol bob wythnos, gan ei gwneud yn ofynnol i'r tîm cynhyrchu symud yn wythnosol. Roedd gan y sioe sawl cynhyrchydd ifanc a oruchwyliwyd gan y cynhyrchydd gweithredol Steve Weddel, ac ddaeth allan o Pebble Mill Studios y BBC sydd bellach wedi ei dymchwel. Ysgrifennwyd y sgript gan O'Connor a'r ysgrifennwr Barry Faulkner, a oedd wedi gweithio gydag O'Connor ar ei sioeau blaenorol, gyda newidiadau funud olaf yn cael eu gwneud ychydig cyn ei ddarlledu.
Yn 2000, gwnaeth O'Connor ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu fel y Tad Tom (offeiriad Catholig) yng nghyfres y BBC, Doctors.[7] Ar 24 Chwefror 2006, cafodd wobr am iddo ymddangos fel gwestai ar y rhaglen deledu Countdown am y 100fed tro. Enillodd O'Connor Celebrity Come Dine with Me, gyda sgôr record o 29/30, ar 14 Mawrth 2010.[8]
Yn 2011, ymddangosodd O'Connor ar Pointless Celebrities, rhifyn enwog o sioe gemau BBC One Pointless, gyda'i ferch-yng-nghyfraith Denise Lewis (yr heptathletwr Olympaidd a enillodd fedal aur). Fe gyrhaeddon nhw'r rownd derfynol, gan ennill £500 yn y pen draw i elusen.[9]
Ei ymddangosiad cyntaf fel actor ar lwyfan oedd fel Pike yn The Perils of the Pond yn y Playhouse, Weston-super-Mare, ym 1991.[5] Ymddangosodd O'Connor hefyd mewn theatr stoc yr haf, teithiau cabaret a phantomeimiau.
Bu farw O'Connor, a oedd wedi cael diagnosis o glefyd Parkinson yn 2007, yn yr ysbyty ar 18 Gorffennaf 2021, yn 85 oed.[10]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.