Chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Tangaki Taulupe "Toby" Faletau (ganed 12 Tachwedd 1990, Tofua, Tonga). Mae'n chwarae i Ddreigiau Casnewydd Gwent a Chymru. Chwaraeodd fel blaenasgellwr i Crosskeys RFC cyn ymuno gyda Dreigiau Casnewydd Gwent.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Taulupe Faletau
Thumb
Ganwyd12 Tachwedd 1990 Edit this on Wikidata
Tofua Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • South Gloucestershire and Stroud College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau109 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Dreigiau, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Bath Rugby, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Rygbi Caerdydd Edit this on Wikidata
SafleWythwr Edit this on Wikidata
Cau

Addysg

Addysgwyd Taulupe yn ysgol gynradd Pont y Gôf yng Nglyn Ebwy cyn iddo symud i Ysgol Gymunedol Trefddyn.

Gyrfa

Chwaraeodd Faletau i Bant-teg hyd nes iddo gyrraedd lefel ieuenctid, cyn symud i chwarae ym Mryste am gyfnod. Chwaraeodd ei gem gyntaf i Ddreigiau Casnewydd Gwent ym mis Tachwedd 2009 yn erbyn Caeredin.

Enwyd Faletau fel aelod o garfan dan 20 Cymru ym mis Rhagfyr 2009 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Cafodd hefyd ei ddewis fel aelod o garfan Cwpan Ieuenctid y Byd a gynhaliwyd yn yr Ariannin ym mis Mehefin 2010.

Galwyd arno i ymuno gyda phrif garfan Cymru ym mis Tachwedd 2010 a chafodd ei gynnwys yng ngharfan Tîm cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2011 ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn y Barbariaid ar 4 Mehefin 2011. Hefyd ym Mehefin 2011, fe enwyd Faletau fel 'Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn' i Ddreigiau Casnewydd Gwent.[1]

Ym mis Awst 2011, fe'i enwyd yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf yn ei gem gyntaf yn y gystadleuaeth ar 11 Medi 2011 yn erbyn De Affrica.[2][3]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.