rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Titw'r Wern (Poecile palustris) yn aelod o deulu'r Paridae, y titwod. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia.
Titw'r Wern | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Paridae |
Genws: | Poecile |
Rhywogaeth: | P. palustris |
Enw deuenwol | |
Poecile palustris (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
Parus palustris |
Mae'n perthyn yn agos i Ditw'r Helyg ac yn bur debyg iddo o ran ymddangosiad ac arferion, ond mae'n defnyddio tyllau sydd eisoes yn bodoli mewn coed i nythu, tra mae Titw'r Helyg yn aml yn gwneud ei dwll ei hun mewn pren wedi pydru.
Ceir sawl is-rywogaeth:
Ar un adeg roedd Titw'r Wern yn aderyn pur gyffredin yng Nghymru, ond mae ei niferoedd wedi gostwng yn fawr yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ac mae wedi diflannu'n llwyr o rai ardaloedd. Nid oes sicrwydd beth yw'r rheswm am hyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.