ysgolhaig Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Ysgolhaig amryddawn a chyfieithydd o Gymru oedd Thomas Jones (1910 – 17 Awst 1972), gyda diddordeb arbennig mewn llenyddiaeth Gymraeg, llên gwerin Cymru a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.
Ganed Thomas Jones yn Yr Allt-wen, Morgannwg yn 1910. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth lle daeth yn aelod o staff yr Adran Gymraeg.
Ymddiddorai mewn ystod eang o bynciau, yn cynnwys cyfieithu gwaith o'r Llydaweg, y Wyddeleg a'r Lladin, llên gwerin a Chylch Arthur. Mae ei astudiaethau yn cynnwys bywyd a gwaith Thomas Jones yr almanaciwr, y croniclydd Tuduraidd Elis Gruffydd, David Owen (Brutus) ac O. M. Edwards.
Fel golygydd testunau Cymraeg Canol fe'i cofir am ei argraffiadau safonol o Y Bibl Ynghymraec a Brut y Tywysogion.
Fel cyfieithydd mae'n adnabyddus am gyhoeddi cyfieithiad o'r Lladin i'r Gymraeg o ddwy gyfrol enwog Gerallt Gymro ar Gymru'r Oesoedd Canol, sef Hanes y Daith Trwy Gymru a'r Disgrifiad o Gymru. Gyda'r llenor Gwyn Jones, cyfieithodd y Mabinogi i'r Saesneg.
Fel golygydd:
Cyfieithiadau
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.