From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfres deledu Brydeinig wedi ei chreu gan ac yn serennu Patrick McGoohan oedd The Prisoner. Ffilmiwyd y gyfres ym Mhortmeirion, ger Penrhyndeudraeth.
Enghraifft o'r canlynol | cyfres deledu |
---|---|
Crëwr | Patrick McGoohan, George Markstein |
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Dechreuwyd | 6 Medi 1967, 1 Hydref 1967 |
Daeth i ben | 1 Chwefror 1968 |
Genre | cyfres deledu ffuglen wyddonol, cyfres deledu ysbïo |
Cymeriadau | Number Six |
Yn cynnwys | The Prisoner, season 1 |
Lleoliad y gwaith | The Village |
Hyd | 48 munud |
Cyfarwyddwr | Pat Jackson, Don Chaffey |
Cynhyrchydd/wyr | David Tomblin |
Cyfansoddwr | Ron Grainer |
Iaith wreiddiol | Saesneg [1] |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r prif gymeriad, a adnabyddir yn unig fel "Rhif 6", yn gyn-ysbïwr Prydeinig, sydd wedi ymddiswyddo yn sydyn. Yn awr, mae'n cael ei gadw'n garcharor mewn pentref bychan ar lan y môr, lle a adnabyddir yn unig fel "Y Pentref", i geisio darganfod pam ei fod wedi ymddiswyddo. Adnabyddir y person sy'n gyfrifol am y pentref fel "Rhif 2"; nid yw'r pennaeth, "Rhif 1", yn ymddangos. Mae'r gyfres yn dilyn ymdrechon Rhif 6 i ddianc o'r pentref.
Darlledwyd y rhaglen gyntaf am y tro cyntaf yn Llundain ar 29 Medi 1967 ar ATV Midlands. Ysbrydolwyd i gyfres i raddau gan adwaith McGoohan i bentref Portmeirion pan yn ffilmio rhannau o'r gyfres Danger Man yno.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.