From Wikipedia, the free encyclopedia
Gaius Pius Esuvius Tetricus neu Tetricus I oedd ymerawdwr yr Ymerodraeth Alaidd rhwng 271 a 274. Ef a'i fab, Tetricus II, oedd yr olaf i deyrnasu dros yr Ymerodraeth Alaidd.
Tetricus I | |
---|---|
Ganwyd | 3 g Bordeaux |
Bu farw | 275 Lucania |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Alaidd |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Blodeuodd | 3 g |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, Conswl Rhufeinig |
Priod | Nera Pivesuvia |
Plant | Tetricus II |
Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Victorinus yn 271, gwnaed Tetricus yn ymerawdwr gan fam Victorinus, Victoria. Yn 271 a 272 bu Tetricus yn ymladd yn erbyn yr Almaenwyr. Gwnaeth ddinas Trier yn brifddinas iddo. Yn 273, rhoddodd deitl Cesar i'w fab, Tetricus II. Yn 274 ymgyrchodd yr ymeradwr Rhufeinig Aurelian yn erbyn yr Ymerodraeth Alaidd, a gorchfygodd Tetricus mewn brwydr ger Châlons-sur-Marne. Cymerwyd Tetricus a'i fab yn garcharorion, ond ni chawsant eu dienyddio. Yn ddiweddarach, gwnaed Tetricus yn llywodraethwr Lucania.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.