Terence O'Neill

From Wikipedia, the free encyclopedia

Terence O'Neill

Terence Marne O'Neill (10 Medi 191412 Mehefin 1990) oedd pedwerydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Terence O'Neill
Thumb
Ganwyd10 Medi 1914 
Llundain 
Bu farw12 Mehefin 1990 
Hampshire 
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon 
Alma mater
  • Coleg Eton
  • West Downs School
  • Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst 
Galwedigaethgwleidydd, gwas sifil, person milwrol 
SwyddPrif Weinidog Gogledd Iwerddon, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop 
Plaid WleidyddolPlaid Unoliaethol Ulster 
TadArthur O'Neill 
MamAnnabel Crewe-Milnes 
PriodJean O'Neill, Lady O'Neill of the Maine 
PlantPatrick Arthur Ingham O'Neill, Penelope Ann O'Neill 
PerthnasauBamber Gascoigne 
Cau

Ganed Terence O’Neill yn Llundain, yn fab i'r Capten Arthur O'Neill, yr Aelod Seneddol cyntaf i'w ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth ef a'i deulu i fyw i Ogledd Iwerddon yn 1945, ac yn 1946 etholwyd ef i Senedd Gogledd Iwerddon dros Blaid Unoliaethol Ulster (UUP).

Yn 1963, olynodd Syr Basil Brooke fel Prif Weinidog Gogledd Iwerddon. Ceisiodd wella'r berthynas rhwng Protestaniaid a Chatholigion, ond bu gwrthwynebiad i hyn gan rai Protestaniaid. Gwahoddodd y Taoiseach (Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon), Seán Lemass, i Belffast i gynnal trafodaethau; gwrthwynebwyd hyn yn chwyrn gan rai Unoliaethwyr, yn arbennig Ian Paisley.

Yn 1968, dechreuodd yr ymgyrch hawliau sifil yng Ngogledd Iwerddon. Ceisiodd O'Neill wneud newudiadau i gyfarfod a rhai o'u gofynion, ond roedd ei fesurau yn rhy ychydig i'r Catholigion, ond yn ormod i lawer o Brotestaniaid, gan gynnwys llawer yn ei blaid ei hun. Galwodd ethliad yn Chwefror 1969, ac wedi methu cael buddugoliaeth glir, ymddiswyddodd fel arweinydd yr UUP a Phrif Weinidog ym mis Ebrill.

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.