Mae'r ffeuen soia yn fath o lysieuyn sy'n gynhwynol i Ddwyrain Asia. Mae'n blanhigyn blynyddol sydd wedi cael ei ddefnyddio fel bwyd yn Tsieina ers 5,000 o flynyddoedd a chaiff ei ddefyddio mewn cyffuriau hefyd. Mae soia'n cynnwys swm sylweddol o'r holl asidau amino angenrheidiol ar gyfer pobl ac felly mae'n ffynhonnell dda o brotîn. Mae ffa soia yn gynhwysyn amlwg mewn nifer o fwydydd seydd wedi'u prosesu, gan gynnwys bwydydd a ddefnyddir yn lle cynhyrchion llaeth.
![Thumb](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/0/0e/240px-Soybean_USDA.jpg/220px-240px-Soybean_USDA.jpg)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.