arlunydd (1953- ) From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Shani Rhys James MBE (ganed ym 1953 yn Melbourne, Awstralia[1]) yn arlunydd o Llangadfan, Powys. Disgrifwyd James fel "arguably one of the most exciting and successful painters of her generation"[1] a "one of Wales’ most significant living artists".[2] Cafodd ei hethol i'r Royal Cambrian Academy of Art ym 1994.[3] Yn ystod Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2006, cafodd ei phenodi yn Member of the Order of the British Empire (MBE) am ei "chyfraniad i gelf".[1]
Shani Rhys James | |
---|---|
Ganwyd | 1953, Mai 1953 Melbourne |
Man preswyl | Llangadfan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Gwobr/au | Jerwood Painting Prize |
Gwefan | https://www.shanirhysjames.com/ |
Ganed Shani Rhys James ym 1953 ym Melbourne, Awstralia. Roedd ei thad yn Gymro a'i mam yn hannu o Awstralia. Symudodd Rhys James i'r DU fel plentyn.[1] Yn chwe blwydd oed bu Rhys James yn wael gyda thrombosytopenia. Disgrifiodd ei chyfnod gartref o'r ysgol o achos ei salwch fel cyfnod arwyddocaol a alluogodd hi chwarae fel plentyn ac ehangu ei dychymyg.[4] Dywed fod ei chyfnod yn Awstralia hefyd wedi ei hannog i greu bywoliaeth allan o gelf.[5] Awgrymodd ei mam iddi beidio mynychu Ysgol Gelf, gan nad oedd yr artistiaid gorau yn eu mynychu yn ei thyb hi.[6] Cynhaliwyd ei diddordeb mewn celf drwy ei chyfeillgarwch â Charles Blackman a sawl cyfaill plentyndod artistig arall.[7] Gan ei bod ei mam yn actor, bu'r theatr hefyd yn ddylanwad mawr ar Rhys James.[8] Roedd props a gwisgoedd theatr yn rhan gyson o amgylchedd ei magwraeth.[9]
Derbyniodd ei haddysg gynnar yn Eltham, Awstralia, cyn symud ymlaen i Parliament Hill Girls School, yn Llundain.[4]
Astudiodd Rhys James yng Ngholeg Celf a Dylunio Loughborough. Ym 1976 enillodd radd mewn Celfyddyd Cain yn Ysgol Gelf Saint Martin.
Wedi derbyn gradd, symudodd i Bowys i fyw, gweithio a magu ei theulu ifanc.[10]
Adnabuwyd Rhys James yn bennaf fel artist hunan bortreol.[11] Roedd ei darn ym 1993, Studio with Gloves yn hunanbortread ohoni hi ei hun yn eistedd yn ei stiwdio. Nid yw gwaith Rhys James yn gyfyngedig i hunanbortreadau yn unig, hoffai baentio portreadau o ferched eraill, golygfeydd domestig neu ddarluniau "riotously spiky and rip-roaring" o fasys o flodau. Dywed y adolygydd cerdd Michael Glover, "There's something mad, wild and thuggish about this work, such is its total lack of restraint. It seems to be gulping at colour... She lathers and slathers on the paint with a kind of unrestrained glee. No wonder the eyes of the model are always slightly bulbous with a kind of childish wonderment".[12] Mae Rhys James hefyd wedi cynhyrchu printiau a darluniau mewn inc a siarcol.[13]
Mae Rhys James wedi cael ei hethol i'r Royal Cambrian Academy of Art a 56 Group Wales.[3]
Ym 2011 cynhwyswyd Rhys James mewn cyfres deledu ar y BBC a oedd yn trafod artistiaid mawr Cymru. Hi eodd yr unig artist byw i gael ei chrybwyll. Cyflwynwyd y rhaglen gan Rolf Harris. Paentiodd Harris hunanbortread yn arddull Rhys James gan ddefnyddio drych bychan a gan edrych ar ei wyneb 'as a landscape'.[14]
Mae Rhys James wedi arddangos ei gwaith ar draws Ewrop, yr UDA, Hong Kong, Seland Newydd ac Awstralia.[3] Er, Martin Tinney Gallery, Caerdydd sydd yn ei chynrychioli.
Rhestrwyd gan wefan BBC Wales Arts oni bai y nodwyd fel arall.[1]
Rhestrwyd gan Martin Tinney Gallery oni bai y nodwyd fel arall[3]
Mae Rhys James yn briod i'r artist Stephen West[1] a mae ganddynt ddau o blant.[10] Er ei bod ar y cyfan yn cael ei chydnabod fel Cymraes mae ganddi basbort Awstralia a disgrifia ei hun fel "mongrel Celt".[19]
Prynodd Rhys James ail gartref yn Charente, France (2010), ac yno, y treuliai llawer o'i hamser.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.