gwleidydd Turkmen yn yr Undeb Sofietaidd, yna llywydd Turkmenistan annibynnol cyntaf From Wikipedia, the free encyclopedia
Saparmurat Atayevich Niyazov (19 Chwefror 1940 – 21 Rhagfyr 2006) oedd arlywydd cyntaf Tyrcmenistan. Bu'n arlywydd ei wlad o 1991 hyd ei farwolaeth o drawiad calon yn 2006. Cyn ei dymor fel arlywydd rheolai'r wlad fel Prif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tyrcmenistan o 1981 ymlaen. Un o'i enwau swyddogol oedd Twrcmenbashi, sef "Tad y Tyrcmeniaid".
Saparmurat Niyazov | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1940 Gypjak |
Bu farw | 21 Rhagfyr 2006 Ashgabat |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Tyrcmenistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, hunangofiannydd |
Swydd | President of Turkmenistan, people's deputy of union of socialist soviet republics |
Adnabyddus am | Ruhnama, Garaşsyz, Bitarap, Türkmenistanyň Döwlet Gimni, Walk of Health |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Democratic Party of Turkmenistan |
Tad | Atamyrat Nyýazow |
Mam | Gurbansoltan Eje |
Priod | Muza Niýazowa |
Plant | Myrat Nyýazow |
Gwobr/au | Hero of Turkmenistan, Q4335952, Q4335857, Q30894224, Urdd Cyfeillgarwch y Bobl, Medal "For Labour Valour, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Order of St. Mesrop Mashtots, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Order of Holy Prince Daniel of Moscow 1st class, Q98457058 |
Roedd yn arweinydd awdurdodaidd iawn a fu'n gyfrifol am sawl weithred ormesol yn erbyn ei wrthwynebwyr. Mae Global Witness, sefydliad hawliau dynol sy'n gweithredu o Llundain, yn amcangyfrif fod gan Niyazov ffortiwn personol, mewn banciau tramor, o dros 3 biliwn o ddoleri ($2 biliwn ohono yn fuddsoddiedig yn Foreign Exchange Reserve Fund y Deutsche Bank yn yr Almaen). Er gwaethaf ei record fe'i cefnogwyd gan yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig fel cynghreiriad pwysig yn y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth."
Bu farw tad Niyazov yn ymladd yr Ail Ryfel Byd, ac fe fu gweddill ei deulu mewn daeargryn yn Aşgabat ym 1948. Cafodd ei fagu mewn cartref plant amddiffad Sofietaidd, nes i'r awdurdodau ei roi dan warchodaeth perthynas pell.
Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1962. Esgynodd yn bur gyflym trwy'r blaid, nes ddod yn bennaeth Plaid Gomiwnyddol y Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Tyrcmenaidd ym 1985.
Roedd yn briod â Muza, a chawsant fab o'r enw Murat a merch o'r enw Irina.
Tra'n Arlywydd-hyd-ei-oes, gosododd lawer o ordinhadau dadleuol ac anarferol ar y bobl Dyrcmenaidd:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.