brenin Deheubarth From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Rhys ab Owain (bu farw 1078) yn frenin Deheubarth yn ne-orllewin Cymru.
Rhys ab Owain | |
---|---|
Ganwyd | 11 g |
Bu farw | 1078 |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Owain ab Edwin (Deheubarth) |
Roedd Rhys yn fab i Owain ab Edwin o linach Hywel Dda. Dilynodd ei frawd Maredudd ar orsedd Deheubarth yn 1072. Yn ôl Brut y Tywysogion ef ac uchelwyr Ystrad Tywi oedd yn gyfrifol am ladd Bleddyn ap Cynfyn, Gwynedd a Powys yn 1075.
Yn 1078 gorchfygwyd ef gan Trahaearn ap Caradog, oedd wedi dilyn Bleddyn ar orsedd Gwynedd, mewn brwydr ger Gwdig. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, lladdwyd Rhys gan frenin Gwent, Caradog ap Gruffydd. Mae croniclydd y Brut yn ystyried ei dynged fel dialedd cyfiawn am ei waith yn lladd Bleddyn ap Cynfyn. Dilynwyd ef fel brenin Deheubarth gan ei gefnder, Rhys ap Tewdwr.
O'i flaen : Maredudd ab Owain ab Edwin |
Teyrnoedd Deheubarth Rhys ab Owain |
Olynydd : Rhys ap Tewdwr |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.