Rhys Lewis
nofel o 1885 gan Daniel Owen; y nofel sylweddol cyntaf a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
nofel o 1885 gan Daniel Owen; y nofel sylweddol cyntaf a ysgrifennwyd yn yr iaith Gymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Nofel gan Daniel Owen yw Hunangofiant Rhys Lewis, Gweinidog Bethel. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1885, ac yn ddiweddar mae wedi ei haddasu ar gyfer y teledu.
Clawr yr argraffiad diweddaraf o Rhys Lewis | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Daniel Owen |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1885 |
Genre | Nofel |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ysgrifennir y nofel hon yn y person cyntaf, yn croniclo hunangofiant Rhys ers ei ddyddiau cyntaf. Mae bywyd yn galed i Rhys, ac mae llu o brofedigaethau yn taro'i deulu a'i gymuned. Trwythir Rhys yn drwyadl mewn Methodistiaeth gan ei fam, a chyda chymorth ambell gyfaill fe ddaw yn weinidog Bethel.
Cymeriad hoffus arall yw Wil Bryan, ychydig yn hŷn na Rhys, a'i gyfaill pennaf. Lle mae Rhys yn ymdrechu i ymddwyn yn gywir, mae Wil yn llawn direidi, ond rhywsut fe welwn fod Wil, erbyn diwedd y llyfr, wedi llwyddo mewn bywyd.
Mae ochr dywyll i'r nofel, a dydy pechod a drygioni perthnasau eraill yn y cysgodion byth yn bell i ffwrdd. Mae iselder ysbryd a phruddglwyf yn treiddio drwy'r hanes.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.