hynafiaethydd a bardd From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Rhys Jones (1713 – 14 Chwefror 1801) yn fardd a hynafiaethydd o Lanfachreth, ger Dolgellau. Cyhoeddodd un o gyfrolau mwyaf dylanwadol y 18g sef Gorchestion Beirdd Cymru ym 1773.[1]
Roedd hefyd yn un o sefydlwyr a mynychwyr Cymdeithas y Lloerigyddion a gyfarfyddai yn nhafarn Drws y Nant, a leolid rhwng Rhydymain a Llanuwchllyn, bob nos Iau cyn y lleuad llawn. Mae'n debygol bod y gymdeithas wedi ei sefydlu o dan ddylanwad cymdeithasau yn Lloegr megis yr Lunar Society (a elwid hefyd y Lunatick Society), lle roedd dynion (fel arfer) dylanwadol yn cwrdd i drafod syniadau, ond hefyd yr Hellfire Club lle roedd hedonistiaeth yn arferol.
Geiriau cytgan arwyddgan agoriadol y Gymdeithas Loerig, a gyfansoddwyd gan Rhys Jones, yw: "Fal pysg traflyngcwn, Fal Bleiddiaid bloeddiwn, Ag yfwn yn ddi gwrs, At iechyd Hymen A Syr Sion Heidden, Tra dalio llen y pen a'r pwrs."[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.