Mae'r Rhewlifiad Cryogenaidd yn un o 5 rhewlifiad anferthol a'r ail rewlif ers ffurfio'r Ddaear, gyda Rhewlifiad Hwronaidd o'i flaen a'r Rhewlifiad Andea-Saharaidd ar ei ôl. Tarddiad y gair yw'r Hen Roeg cryos "oerfel" a genesis "geni". Parodd y cyfnod hwn rhwng 720 i 635 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Rhan o ...
Rhewlifiant Cryogenaidd
Thumb
Enghraifft o'r canlynolsystem, cyfnod Edit this on Wikidata
Rhan oNeoproterosöig, Graddfa Cronostratigraffig Fyd-eang Safonol (Daeargronolegol) ICS Edit this on Wikidata
Dechreuwydc. Mileniwm 721. CC Edit this on Wikidata
Daeth i benc. Mileniwm 636. CC Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganTonian Edit this on Wikidata
Olynwyd ganEdiacaran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at Oes Iâ; am erthygl am y Cyfnod (daeareg) gweler: Cryogenaidd (Cryogenian).

Wedi ffurfio'r Ddaear ar ddechrau'r Eon Hadeaidd, oerodd yn araf, dros gyfnod hir o amser, a chafwyd o leiaf 5 Oes yr Iâ (neu rewlifau) sylweddol: y Rhewlifiad Hwronaidd (Huronian), y Cryogenaidd, y Rhewlifiant Andea-Saharaidd (Andean-Saharan), Oes Iâ Karoo a'r Rhewlifiant Cwaternaidd sef yr Oes Iâ rydym yn byw ynddi heddiw. Ar wahân i'r 5 cyfnod yma, mae'n fwy na phosibl nad oedd rhew yn unman ar y Ddaear yn ystod y cyfnodau eraill.[1][2]

Thumb
Diagram yn dangos y 4 Eon, gyda'r oes presennol ar yr ochr dde. Yn y gwaeld ceir y 5 prif Oes Iâ.

Yn y gorffennol cafwyd cryn anghytundeb am union ddechrau'r cyfnod Cryogenaidd, ond bellach nodir y dylai ei ddechrau fod yr un dyddiad a dechrau'r rhewlif Cryogenaidd.[3] Mae'n bur debyg i'r Rhewlif Cryogenaidd fod yr Oes Iâ oeraf o'r 5. Roedd y Rhewlif hwn yn ehangu ac yn crebachu'n eitha rheolaidd, gan gyrraedd (ar ei anterth) y cyhydedd.[4]

Yn rhyfeddol, yn ystod y Cryogenaidd y ceir y ffosiliau (ac felly'r anifail cynharaf.[5][6]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.