Cwmni recordiau Cymreig oedd Recordiau'r Dryw ac o dan yr enw Saesneg, Wren Records. Sefydlwyd y cwmni recordiau yma fel estyniad o gwmni cyhoeddi Llyfrau’r Dryw, Llandybie, gyda Dennis Charles Rees (“Den The Wren”) wrth lyw y cwmni recordiau. Roedd Dennis Rees yn gweithio i Alun Talfan Davies QC fel rheolwr Llyfrau’r Dryw cyn cymryd rheolaeth ar adain recordiau’r cwmni.[1]
Math o gyfrwng | label recordio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1964 |
Genre | art music, cerddoriaeth gorawl, canu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd |
Gwladwriaeth | Cymru |
{{{enw'r label recordio}}} | |
Sefydlwyd | {{{sefydlwyd}}} |
---|---|
Sylfaenydd | {{{sylfaenydd}}} |
Math o gerddoriaeth | {{{math o gerddoriaeth}}} |
Gwlad | {{{gwlad}}} |
Roedd ganddynt stiwdio recordio yn hen adeilad y BBC yn Heol Alexandra, Abertawe. Un o’r unig gwmniau recordio Cymraeg o’r cyfnod i fod yn berchen eu stiwdio eu hunain.
Rhyddhawyd tua 200 o senglau ac EPs a thua 80 o LPs a chasetiau rhwng 1964 a 1976, nes i Lyfrau’r Dryw droi yn Christopher Davies.
Artistiaid
Y record gyntaf oedd record Noson Lawen, gyda Bois y Blacbord (WRE 1001) yn 1964. Cyhoeddwyd recordiau gan enwogion y cyfnod, fel Aled a Reg, Ryan a Ronnie, Meic Stevens, Y Bara Menyn (grwp Cymraeg cyntaf Heather Jones, Geraint Jarman a Meic Stevens), Endaf Emlyn, Y Diliau, Hogia'r Wyddfa a record gyntaf y Tebot Piws yn 1970. Cafwyd hefyd recordiau o ganeuon mwy traddodiadol megis, 'Songs in Welsh Phillip Watkins, Welsh Boy Soprano'.[2]
Cyhoeddodd y cwmni record fer (DRYW001) yn 1967 gan aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans, lle y bu’n llefaru yn Gymraeg ar un ochr o’r record ac yn Saesneg ar y llall yn dilyn ei ethol fel aelod seneddol Caerfyrddin.[3]
Un o ddargynfyddiadau mawr cwmni’r Dryw oedd yr un a’r unig Meic Stevens. Cyhoeddodd recordiau enwog fel Mwg, Cân Walter, Byw Yn Y Wlad a’r Eryr A’r Golomen, yn ogystal a’r record hir fythgofiadwy 'Gwymon' yn 1972. Mae’n debyg mai Meic ddechreuodd alw Dennis Rees yn “Den The Wren”.
Recordiau Addysgiadol
Yn 1967-8, rhyddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau hir ar is-label Wren Educational Record Library, dan y teitl 'Wales And Her History' (Wren QDR 101-105).
Hefyd yn 1967 fe ryddhaodd y cwmni gyfres fer o recordiau 7 modfedd ar gyfer ysgolion, dan y teitl “Disgiau Dysgu Difyr” – roedd rhai o’r rhain yn cynnwys llyfryn. Roedd eu label cylch yn y canol yn cael eu cyhoeddi mewn lliwiau gwahanol.[4]
Fel rhan o gyhoeddi materion addysgiadol, yn 1970 fe gyhoeddodd y cwmni gyfres Recordiau’r Ysgol A’r Aelwyd, cyfres o 12 record hir yn ymdrin ac enwogion y genedl.
Dod i ben
Erbyn ganol y 70au, daeth Dryw/Wren i ben a gwerthwyd y stiwdio. Mae cwmni Sain yn berchen ar eu catalog recordiau y dyddiau hyn ac yn achlysurol fe welir rhai o’r hen ganeuon yn ymddangos ar gynnyrch Sain. Bu farw Dennis Rees ymi mis Gorffennaf 2011.[5]
Dolenni
- WREN - Gwefan i bobl sy'n casglu casgliad Recordiau'r Dryw/Wren Records
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.