Lleolir Pwll Cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales National Pool) yn ardal Sgeti o ddinas Abertawe, Cymru. Pwll nofio 50 metr ydyw a adeiladwyd i safonau FINA. Defnyddir y pwll, sydd hefyd yn gartref i bwll hyfforddi llai 25m x 9.5m ac sy'n medru eistedd 1,200 o wylwyr, i hyfforddi athletwyr nofio Cymru. Er fod y pwll o hyd Olympaidd, nid yw ei led o 21m yn ddigon i gael ei ystyried yn bwll o safon Olympaidd.
Math | lleoliad chwaraeon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.6075°N 3.9889°W |
Mae'r pwll yn un o bump Canolfan Hyfforddi Dwys Nofwyr Prydain, ac fe'i ddefnyddir i hyfforddi athletwyr ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Adeiladwyd y cyfleuster gan arian o Gyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Abertawe a Phrifysgol Abertawe ac fe'i adeiladwyd ar safle canolfan chwaraeon Prifysgol Abertawe.
Dolenni allanol
- Pwll Cenedlaethol Cymru (Gwefan swyddogol)
- Dreigiau Dinbych yn ymweld â'r Pwll Cenedlaethol Archifwyd 2008-03-25 yn y Peiriant Wayback (Clwb Nofion Dinbych)
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.