Uniad ffurfiol rhwng dau berson neu ragor[1] fel arfer er mwyn byw gyda'i gilydd ac yn aml i gael plant yw priodas[2] (neu weithiau mewn cyd-destun cyfreithiol y stad briodasol).[3] Mae cyfraith briodasol yn rheoli'r hawliau a dyletswyddau sydd gan barau priod, ac eu statws cyfreithiol parthed ei gilydd a'u plant.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Priodas
Thumb
Enghraifft o'r canlynolsefydliad cyfreithiol, carennydd mewn enw, digwyddiad, sefydliad Edit this on Wikidata
Mathperthynas agos, diwedd dyweddïad Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebmarried Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganengagement, Seremoni briodas Edit this on Wikidata
Olynwyd ganlegal separation Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmarital debt Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cau
Thumb
Y priodfab a'r briodferch ym Mwlch-y-cibau. Ffotograff gan Geoff Charles (1954).

Mae'r cysyniad o briodas yn gyffredin i gymdeithasau ar draws y byd, gan ei fod yn darparu strwythur ar gyfer sylfaen gymdeithasol a phersonol, sy'n cynnwys anghenion rhywiol a chariadol, rhannu llafur rhwng y ddau rywedd, ac annog cenhedlu a magu plant.[4]

Gelwir dyn priod yn ŵr a menyw briod yn wraig. Gelwir y ddefod sy'n nodi dechrau priodas hefyd yn briodas neu'n seremoni briodas. Mae nifer yn gweld priodas fel uniad rhwng dau deulu er mwyn creu teulu newydd, hynny yw y teulu niwclear sy'n cynnwys rhieni a'u plant. Gelwir teulu'r priod yn deulu-yng-nghyfraith. Mewn rhai diwylliannau mae priodas yn uniad am weddill oes na ellir ei derfynu, ond mewn cymdeithasau eraill mae modd dod â phriodas i ben drwy ymwahaniad, dirymiad, neu ysgariad.

Mewn rhai diwylliannau mae'n bosib i unigolion briodi mwy nag un gŵr neu wraig, ond mewn diwylliannau eraill mae amlbriodas yn drosedd. Yn draddodiadol ar draws y byd, uniad rhwng dyn a menyw yw priodas. Yn yr 21g mae nifer o wledydd wedi cyfreithloni priodas gyfunryw sy'n caniatáu priodas rhwng dau ddyn neu ddwy fenyw.

Gweler hefyd

  • Priodas gyfraith gyffredin

Cyfeiriadau

Wikiwand in your browser!

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.

Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.