From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngogledd-orllewin Twrci yw İznik. Ei hen enw oedd Nicea (Groeg: Νίκαια). Mae'n enwog fel safle dau o gynghorau cynnar yr eglwys Gristnogol, Cyngor Cyntaf Nicea ac Ail Gyngor Nicea, a rhoddodd y ddinas ei henw i Gredo Nicea.
Sefydlwyd y ddinas yn 310 CC gan Antigonos I Monophthalmos. Rhwng 1204 a 1261, Nicea oedd prifddinas Ymerodraeth Nicea, a ffurfiwyd pan ymrannodd yr Ymerodraeth Fysantaidd wedi i ddinas Caergystennin gael ei chipio gan y croesgadwyr yn 1204. Yn 1261 llwyddodd Ymerodraeth Nicea i gipio Caergystennin yn ôl, ac adferwyd yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Saif y ddinas ar ochr ddwyreniniol Llyn İznik, ac fe'i hamgylchynir gan furiau 10 m o uchder, ac mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae'r boblogaeth tua 15,000.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.