Narbonne

From Wikipedia, the free encyclopedia

Narbonne

Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Narbonne (Catalaneg ac Occitaneg: Narbona). Saif yn département Aude yn région Languedoc-Roussillon. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Narbonne
Thumb
Thumb
Mathcymuned 
Poblogaeth56,692 
Pennaeth llywodraethJacques Bascou 
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 
Gefeilldref/i
Aosta, Grosseto, Salford, Weilheim in Oberbayern 
Daearyddiaeth
Sirarrondissement of Narbonne, canton of Narbonne-Est, canton of Narbonne-Ouest, canton of Narbonne-Sud, Le Grand Narbonne, Aude 
Gwlad Ffrainc
Arwynebedd172.96 km² 
Uwch y môr285 ±1 metr, 0 metr 
GerllawAfon Aude 
Yn ffinio gydaArmissan, Bages, Bizanet, Coursan, Cuxac-d'Aude, Fleury, Gruissan, Marcorignan, Montredon-des-Corbières, Moussan, Névian, Port-la-Nouvelle, Peyriac-de-Mer, Saint-André-de-Roquelongue, Vinassan 
Cyfesurynnau43.1847°N 3.0036°E 
Cod post11100 
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Narbonne 
Pennaeth y LlywodraethJacques Bascou 
Thumb
Cau
Thumb
Eglwys gadeiriol Narbonne

Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig Colonia Narbo Martius yn 118 CC, ar y Via Domitia, y ffordd Rufeinig gyntaf yng Ngâl. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iŵl Cesar gyn-filwyr o'i leng Legio X Gemina yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig Gallia Narbonensis.

Dan y Fisigothiaid bu'n brifddinas talaith Septimania, yna am gyfnod yn rhan o Emirat Cordoba nes iddi gael ei chipio gan y Ffranciaid dan Pepin Fychan yn 759. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i Afon Aude newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,510.

Adeiladau

  • Eglwys gadeiriol St-Just
  • Halles de Narbonne
  • Horreum
  • Palais des Archevêques (Palas Archesgob)
  • Via Domitia

Pobl enwog o Narbonne

  • Charles Trenet
  • Léon Blum
  • Sant Sébastien
  • Dimitri Szarzewski

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.