From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yn awdurdod unedol Angus, yr Alban, yw Monifieth[1] (Gaeleg yr Alban: Monadh Fotha).[2]
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 8,370.[3] Fe'i lleolir ar lan ogleddol Moryd Tay ar arfordir y dwyrain. Mae i bob pwrpas yn faestref dinas Dundee, y mae'n sefyll nesaf ati.
Hyd at y 19g roedd Monifieth yn bentref a oedd yn ddibynnol ar amaethyddiaeth a diwydiant ysgafn. Fodd bynnag, ar ddechrau'r ganrif sefydlodd James Low a Robert Fairweather ffowndri yno, ac ym 1815 dechreuon nhw gynhyrchu peiriant cardio ar gyfer llin. Gyda datblygiad y diwydiant tecstilau yn Dundee ac Angus tyfodd y busnes yn gyflym, ac, erbyn diwedd y 19g, roedd James F. Low & Co. yn cynhyrchu amrywiaeth helaeth o beiriannau a ddefnyddiwyd i brosesu a nyddu jiwt, llin a ffibrau eraill. Dechreuodd y cwmni ddenu archebion o bob cwr o'r byd, ac erbyn y 1880au roedd Ffowndri Monifieth yn cyflogi tua 300 o weithwyr. Rhwng 1861 a 1901, cynyddodd poblogaeth Monifieth o 558 i 2,134. Ym 1895 cofrestrwyd Monifieth yn Llys Siryf Forfar fel burgh (corfforaeth ddinesig).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.