Moel yr Ogof

mynydd (655m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Moel yr Ogof

Mynydd yn Eryri, rhwng Beddgelert a Chwm Pennant yw Moel yr Ogof. Mae'n rhan o'r grib sy'n cyrraedd ei phwynt uchaf ar gopa Moel Hebog; saif Moel yr Ogof rhwng Moel Hebog i'r de a Moel Lefn i'r gogledd.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Moel yr Ogof
Thumb
Mathmynydd, copa 
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMoel Hebog 
SirGwynedd 
Gwlad Cymru
Uwch y môr655 metr 
Cyfesurynnau53.0086°N 4.1534°W 
Cod OSSH5562547864 
Manylion
Amlygrwydd118 metr 
Rhiant gopaMoel Hebog 
Cadwyn fynyddMoel Hebog 
Thumb
Cau

Saif Cwm Pennant i'r gorllewin o'r copa, a Choedwig Beddgelert i'r dwyrain. I'r de, mae Cwm Llefrith yn ei eahanu oddi wrth Moel Hebog.

Ceir ogof fechan ar lechweddau dwyreiniol y mynydd, ac mae traddodiad i Owain Glyndŵr lochesu yno am gyfnod.

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.