From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas yng ngogledd-ddwyrain Wrwgwái a phrifddinas Talaith Cerro Largo yw Melo. Saif cyrion gorllewinol y ddinas ar lednant o Afon Tacuarí a elwir Arroyo de los Conventos, ger y ffin â Brasil. Mae ganddi boblogaeth o ryw 50,000.
Sefydlwyd gorsaf filwrol Sbaenaidd yma yn 1795 gan y Capten Agustín de la Rosa. Fe'i enwyd ar ôl Pedro de Melo, Rhaglaw'r Río de la Plata.[1]
Ymhlith yr enwogion o Melo mae'r llenorion Juana de Ibarbourou, Emilio Oribe, ac Emir Rodríguez Monegal.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.