Cymraes ac ymgyrchydd dros heddwch From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Mary Elizabeth Ellis (1881-1974), ac, yn hwyrach adnebir yn aml fel Mrs Gwilym Davies ymhlith y menywod cyntaf i ddal swyddi proffesiynol o statws cymharol uchel ym maes gweinyddiad a llywodraethiant addysg yng Nghymru, ac roeddent yn adnabyddus yn eu dydd. Bu'n ymwneud â sefydliadau neu fudiadau addysgol a diwylliannol, gan gynnwys Coleg y Brifysgol Bangor, adran menywod Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.[1]
Mary Elizabeth Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 1881 |
Bu farw | 1974 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ymgyrchydd |
Priod | Gwilym Davies |
Roedd Mary Ellis yn aelod blaenllaw o’r ddirprwyaeth a deithiodd i’r Unol Daleithiau i gyflwyno Apêl Heddwch Menywod Cymru i fenywod America ym 1924. Mae ail-ddarganfod y menywod hyn nid yn unig yn cynnig cyfle i ddod i adnabod y menywod eu hunain yng nghyd-destun yr oes, ond hefyd i ddysgu am rwydweithiau’r dosbarth addysgedig a phroffesiynol yr oeddent yn rhan ohono.
Hi oedd yr ail wraig i gael ei phenodi'n arolygydd ysgolion Cymru. Ym 1942 daeth hi'n ail wraig i Gwilym Davies[2] Roedd ei gŵr yn ffigwr adnabyddus yn Cymdeithas Cynghrair y Cenhedloedd ac a sefydlodd Neges Heddwch ac Ewyllys Da a ddaeth, maes o law yn neges flynyddol yr Urdd dan yr un enw. Roedden nhw'n byw yn Aberystwyth.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.