gwleidydd, boneddiges breswyl (1473-1541) From Wikipedia, the free encyclopedia
Uchelwraig Seisnig oedd Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury (14 Awst 1473 – 27 Mai 1541). Roedd hi'n ferch i Siôr, Dug Clarens, brawd Edward IV, brenin Lloegr a Rhisiart III, brenin Lloegr. Ei mam oedd Isabel o Warwick, merch Richard, Iarll Warwick (llysenw: y "Kingmaker") Roedd Margaret yn un o ddwy ferch yn yr 16g yn Lloegr i fod yn arglwyddes drwy ei hawl ei hun: y llall oedd Anne Boleyn, Ardalydd Penfro.
Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury | |
---|---|
Ganwyd | 14 Awst 1473 Caerfaddon |
Bu farw | 27 Mai 1541 Tŵr Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, boneddiges breswyl |
Dydd gŵyl | 28 Mai |
Tad | George Plantagenet, dug 1af Clarence |
Mam | Isabel Neville, duges Clarence |
Priod | Sir Richard Pole |
Plant | Ursula Pole, Arthur Pole, Geoffrey Pole, Henry Pole, 1st Baron Montagu, Reginald Pole |
Llinach | Iorciaid, Llinach y Plantagenet |
Yn 1500 priododd Margaret Syr Richard Pole (1462–1504), boneddigwr o Swydd Buckingham o dras Gymreig. Byddai eu mab Reginald Pole (1500–1588) yn ddiweddarach yn dod yn Gardinal yr Eglwys Gatholig Rufeinig ac yn Archesgob Caergaint yn ystod y Gwrth-Ddiwygiad.
Roedd Margaret yn foneddiges breswyl i Catrin o Aragón pan oedd Catrin yn briod ag Arthur Tudur (1501–2) ac eto pan ailbriododd â Harri VIII, brenin Lloegr (1509).
Cafodd Margaret ei dienyddio yn 1541 yn Nhŵr Llundain ar orchymyn Harri VIII. Ym 1886 cafodd ei gwynfydoli fel merthyr i'r Eglwys Gatholig gan y Pab Leo XIII.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.