Louis XIV, brenin Ffrainc

actor, teyrn, gwleidydd, casglwr celf (1638-1715) From Wikipedia, the free encyclopedia

Louis XIV, brenin Ffrainc

Brenin Ffrainc o 14 Mai 1643 tan 1 Medi 1715 oedd Louis XIV (Louis-Dieudonné neu le Roi-Soleil) (5 Medi 16381 Medi 1715). Bu'n frenin am gyfnod hirach nag unrhyw frenin arall, o genedl a'r maint hwn: 72 blwyddyn a 110 diwrnod.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bedyddiwyd ...
Louis XIV, brenin Ffrainc
Thumb
Ganwyd5 Medi 1638 
Château de Saint-Germain-en-Laye 
Bedyddiwyd21 Ebrill 1643 
Bu farw1 Medi 1715 
Palas Versailles 
Man preswylPalas Versailles 
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc 
Galwedigaethgwleidydd, casglwr celf, actor, teyrn, gwladweinydd 
Swyddbrenin Ffrainc a Navarre, Cyd-Dywysog Ffrainc 
TadLouis XIII, brenin Ffrainc 
MamAnna o Awstria 
PriodMaria Theresa o Sbaen, Madame de Maintenon 
PartnerLouise de La Vallière, Madame de Montespan, Claude de Vin des Œillets, Catherine Bellier, Marie Mancini, Olympia Mancini, Anne-Madeleine de Conty d'Argencourt, Catherine Charlotte de Gramont, Bonne de Pons d'Heudicourt, Anne de Rohan-Chabot, Isabelle de Ludres, Marie Angélique de Scorailles, Duchess of Fontanges 
PlantLouis, Marie Thérèse, Philippe Charles, Y Dywysoges Anne Élisabeth o Ffrainc, Y Dywysoges Marie Anne o Ffrainc, Louis François, Françoise Marie de Bourbon, Louise Françoise de Bourbon, Louis Auguste, Louis, iarll Vermandois, Louis César, Louise Marie Anne de Bourbon, Marie Anne de Bourbon, Louise de Maisonblanche, Charles de La Baume Le Blanc, Philippe de Bourbon, mab anhysbys Bourbon, mab anhysbys, Louise Françoise de Bourbon, Louis Alexandre 
LlinachHouse of Bourbon in France, Y Bourboniaid 
Gwobr/auUrdd yr Ysbryd Glân, Urdd Sant Mihangel, Order of Saint Louis 
llofnod
Thumb
Cau

I louis mae'r diolch am gryfhau Ffrainc yn uned a oedd yn cael ei rheoli o'i phrifddinas, Paris. Dileodd y syniad fod ffiwdaliaeth yn dderbyniol i raddau helaeth. A thrwy fynu fod yr uchelwyr cefnog yn byw yn ei balas yn Versailles, a oedd cyn hynny'n blasty hela, llwyddodd i ddofi'r pendefigion, hyd yn oed y rhai hynny a fu'n aelodau o Wrthryfel y Fronde. Roedd yn ymgorfforiad o frenhiniaeth absoliwt ac elfennau waethaf yr Ancien Régime a ddaeth i ben gyda'r Chwyldro Ffrengig.

Plentyndod a phriodas

Cafodd ei eni yn Saint-Germain-en-Laye, yn rhanbarth Île-de-France.[2] Ei dad oedd y Brenin Louis XIII a'i fam oedd Ann o Awstria (1601 – 1666). Fe'i galwyd yn Louis Dieudonné (Louis, rhodd gan Dduw)[3] ynghyd a'r teitl traddodiadol, Ffrengig y darpar frenin: Y Dauphin.[4] Pan anwyd ef roedd ei rieni wedi bob yn briod am 23 mlynedd, ac wedi colli pedwar plentyn ar eu genedigaeth, rhwng 1619 ac 1631. Roedd y gwleidyddion ac uchelwyr y cyfnod, felly, gweld geni Louis yn rodd gan Dduw, ac yn wyrth.

Ei wraig gyntaf oedd Maria Teresa o Awstria (1638–1683) (Sbaeneg: María Teresa; Ffrangeg: Marie-Thérèse), tywysoges o Sbaen. Cawsant chwech o blant ond un yn unig a dyfodd yn oedolyn: Monseigneur. Bu farw Maria Teresa yn 1683 a phriododd Louis ei gariad newydd Madame de Maintenon yng ngaeaf 1685-86.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.