From Wikipedia, the free encyclopedia
Llyn yng ngorllewin Ewrop yw Llyn Léman neu Llyn Genefa (Ffrangeg: Lac Léman). Mae'n debyg bod yr enw "Léman" o darddiad Celtaidd, trwy'r enw Lladin lacus Lemanus.
Math | glacial lake, llyn |
---|---|
Enwyd ar ôl | Genefa |
Daearyddiaeth | |
Sir | Vaud, Genefa, Valais, Haute-Savoie |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 581.3 km² |
Uwch y môr | 372 metr |
Cyfesurynnau | 46.45°N 6.55°E |
Dalgylch | 7,395 cilometr sgwâr |
Hyd | 73 cilometr |
Cadwyn fynydd | Jura, Chablais Massif, Vaud and Freiburger Prealps |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Saif ar y ffin rhwng y Swistir a Ffrainc. Llifa Afon Rhône i mewn iddo yn y dwyrain ac allan yn y gorllewin. Mae'n 72.8 km o hyd, gydag arwynebedd o 582.4 km² a dyfnder o 309.7 medr yn y man dyfnaf. Mae'r lan ddeheuol yn département Haute-Savoie yn Ffrainc, a'r lan ogleddol wedi ei rhannu rhwng tri canton yn y Swistir, Genefa, Vaud a Valais. Ymhlith y dinasoedd ar ei lannau mae Genefa, Lausanne, Montreux, Villeneuve, Saint-Sulpice Évian-les-Bains, Lutry, Cully ac Yvoire. Ar ynys yn y llyn mae Castell Chillon.
Yn 58 CC, curwyd byddin Rufeinig gan fyddin o Helvetiaid dan arweiniad Divico ger y llyn.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.