Dyfeisiwr From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfeisiwr sigaréts menthol oedd Lloyd Hughes (neu "Spud" i'w ffrindiau), o Mingo Junction, Ohio a wnaeth y sigarét cyntaf o'r math hwn yn 1924,[1]. Ffurfiodd gwmni o'r enw 'The Spud Cigarette Corporation' gan werthu ei sigarennau am 20c am baced o ugain, o ddrws i ddrws. Yna, yn 1927 prynwyd yr hawl i greu sigarets menthol gan y cwmni Axton-Fisher Tobacco Company.[2]
Lloyd Hughes | |
---|---|
Ganwyd | Mingo Junction |
Dinasyddiaeth | Cymru UDA |
Galwedigaeth | dyfeisiwr |
Cysylltir gyda | menthol |
Dywedir i Hughes storio'i sigaréts mewn tun gyda chrisialau menthol a ddefnyddid ganddo i leddfu symptomau ei annwyd a'i asma. Llwyddodd y tybaco i amsugno blas y mintys a gwneud y sigaréts yn haws i'w ysmygu. Dechreuodd Hughes werthu sigaréts menthol, ac erbyn 1932 ei frand 'Spud' oedd y pumed sigarét a werthodd orau drwy Unol Daleithiau America.[3]
Yn 2020 roedd chwarter y sigaréts a werthwyd drwy UDA yn rhai blas menthol. Dengys ymchwil diweddar ei bod yn anos roi'r gorau i ysmygu sigaréts menthol na rhai cyffredin.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.