Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Lleuad lawn (weithiau lleuad llawn) yw'r wedd leuad pan fo'r lleuad yn ymddangos fel petai wedi'i goleuo yn llawn o safbwynt y Ddaear. Mae hyn yn digwydd pan fo’r Ddaear rhwng yr Haul a'r Lleuad (yn fanwl gywir, pan fo 180° o wahaniaeth yn hydredau ecliptig yr Haul a'r Lleuad). Mae hyn yn golygu bod yr hemisffêr lleuadol sy'n wynebu'r ddaear - yr ochr agosaf - wedi'i oleuo'n llawn gan yr Haul ac yn ymddangos fel disg crwn, tra bo’r ochr bellaf yn dywyll. Mae lleuad lawn yn digwydd tuag unwaith y mis.
Pan mae'r Lleuad yn symud i gysgod y Ddaear, ceir diffyg ar y Lleuad (hefyd clip neu eclips). Pan fydd hyn yn digwydd, gall wyneb y Lleuad neu ran ohono ymddangos yn gochlyd oherwydd y tonfeddi gleision a phlygiant goleuni'r haul trwy atmosffer y Ddaear.[3][4][5] Ar Leuad llawn yn unig y ceir diffyg ar y Lleuad ac ar bwyntiau yn ei chylchdro pan allai'r lleoeren basio trwy gysgod y blaned. Nid yw diffyg ar y Lleuad yn digwydd bob mis am fod cylchdro'r Lleuad yn gogwyddo 5.14° mewn perthynas â gwastad ecliptig y Ddaear; felly, mae'r Lleuad fel arfer yn pasio i'r gogledd neu'r de o gysgod y Ddaear, sydd wedi'i gyfyngu yn bennaf i'r gwastad cyfeiriol hwn. Mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd pan mae'r lleuad lawn i'w chel o gwmpas y naill nod neu'r llall o'i gylchdro (esgynnol neu ddisgynol). Felly, mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd tuag unwaith pob chwe mis ac yn aml tua phythefnos cyn neu ar ôl diffyg ar yr haul, sy'n digwydd yn ystod lleuad newydd o gwmpas y nod arall.
Mae'r cyfnod rhwng lleuad newydd neu lawn a'r cyfnod nesaf yr un peth, sef mis lleuadol, ar gyfartaledd yn 29.53 o ddyddiau. Felly, yn y calendrau lleuadol sydd â phob mis yn dechrau ar ddiwrnod y lleuad newydd, mae'r lleuad lawn i'w chael naill ai ar y 14eg neu'r 15fed diwrnod o'r mis lleuadol. Oherwydd bod mis calendr yn cynnwys dyddiau llawn, gall mis lleuadol fod naill ai yn 29 neu 30 diwrnod o hyd.
Mae lleuad fedi (hefyd lleuad y naw nos olau, lleuad gynhaeaf a lleuad chwech nos olau) a lleuad hela (hefyd lleuad gwŷr Penllyn a lleuad gwŷr Iâl) yn enwau traddodiadol ar gyfer lleuadau llawn ddiwedd yr haf neu yn yr hydref, ym misoedd Medi a Hydref yn hemisffer y gogledd. Lleuad fedi yw'r lleuad llawn agosaf at alban Elfed (22 neu 23 Medi) a gallai fod unrhyw bryd yn ystod y pythefnos cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.[7] Lleuad hela yw'r lleuad lawn yn dilyn hynny.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.