From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a chymuned ym Meirionnydd, Gwynedd, Cymru, yw Llangywer ( ynganiad ) (hefyd Llangywair; llygriad Saesneg: Llangower).[1] Saif Llangywer ar lan ddeheuol Llyn Tegid, tua 3 milltir a hanner i'r de o'r Bala a llai na chilometr o Lanuwchllyn. Rhed trac Rheilffordd Llyn Tegid trwy Llangywair, a cheir gorsaf yno. Yn 2011 roedd poblogaeth y gymuned hon yn 260.
Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 290 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.877°N 3.63°W |
Cod SYG | W04000081 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]
Saif Castell Gronw ger y pentref, hen domen o'r Oesoedd Canol.
Yn yr Oesoedd Canol bu Llangywair yn un o dri phlwyf cwmwd Uwch Tryweryn yng nghantref Penllyn. Noda Cwm Cynllwyd, sy'n codi i gyfeiriad Bwlch y Groes, ffin orllewinol y plwyf, sy'n codi i'r dwyrain i fryniau deheuol Y Berwyn. Mae'n ardal fynyddig iawn gyda'r rhan fwyaf o'r anneddau'n gorwedd ar y llain o dir isel ar lan Llyn Tegid.
Bu'r bardd Euros Bowen yn reithor yma am flynyddoedd. Efallai fod Llangywer yn fwyaf adnabyddus am y gân werin draddodiadol:
Cysegrir eglwys y plwyf i santes leol o'r enw Cywair. Ni wyddom ddim amdani o gwbl, ond credir fod llun dychmygol ohoni ar ffenestr liw dwyreiniol yr eglwys.
Ceir cofnod am yr eglwys hon yn Taxatio 1291. Cofnodwyd i John Wynne ymweld â'r lle yn 1729. Yn ôl Cadw, 'St. Gwawr' yw'r enw cywir.[4] Mae colofnau'r eglwys yn dyddio'n ôl i'r 15g os nad cynt. Caewyd y drysau am y tro olaf yn 2003 gan mai dim ond tri aelod oedd gan yr eglwys.[5]
Ceir ffynnon sanctaidd gerllaw - Ffynnon Gywair - a orchuddir gan garreg a enwir yn Llech Cywair. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl werin am foddi'r deyrnas lle saif Llyn Tegid heddiw, esgeuluso rhoi'r garreg yn ôl ar y ffynnon a barodd iddi orlifio a boddi'r hen deyrnas, gan ffurfio'r llyn.[6] Dyddia eglwys Llangywer o'r 13g, ond cafodd ei hail-adeiladu yn 1871.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llangywer (pob oed) (260) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangywer) (170) | 67.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangywer) (170) | 65.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llangywer) (21) | 19.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.