Remove ads
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadfridog o'r Ariannin oedd José Francisco de San Martín y Matorras (25 Chwefror 1778 – 17 Awst 1850)[1] a oedd yn brif arweinydd rhyfeloedd annibyniaeth yr Ariannin, Tsile, a Pheriw oddi ar Ymerodraeth Sbaen.
José de San Martín | |
---|---|
Ganwyd | José Francisco de San Martín y Matorras 25 Chwefror 1778 África |
Bu farw | 17 Awst 1850 Boulogne-sur-Mer |
Man preswyl | Buenos Aires, Madrid, Llundain, Lima, Paris |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person milwrol, gwleidydd, milwr |
Swydd | Arlywydd Periw, Llywodraethwr Mendoza, Commander-in-Chief of the Chilean Army |
Plaid Wleidyddol | Patriot |
Tad | Juan D' San Martin y Gómez |
Mam | Gregoria Matorras, Rosa Guarú |
Priod | María de los Remedios de Escalada |
Plant | Mercedes Tomasa San Martín y Escalada |
Gwobr/au | Urdd yr Haul, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Genedlaethol San Marcos |
llofnod | |
Ganwyd yn Yapeyú, Rhaglawiaeth Río de la Plata, a leolir heddiw yn Nhalaith Corrientes, yr Ariannin. Symudodd gyda'i deulu i Sbaen yn 1783, ac ymunodd â'r fyddin yn 11 oed. Brwydrodd yn erbyn lluoedd Napoléon yn Rhyfel Iberia o 1808 i 1811.
Aeth i Buenos Aires yn 1812 ac ymunodd â Thaleithiau Unedig Río de la Plata yn y chwyldro yn erbyn Ymerodraeth Sbaen. Enillodd fuddugoliaeth yn erbyn y Sbaenwyr ym Mrwydr San Lorenzo (1813), ac arweiniodd Fyddin y Gogledd yn 1814. Cynlluniodd i drechu lluoedd Sbaen drwy sefydlu byddin i groesi'r Andes ac ymosod arnynt ar hyd arfordir y Cefnfor Tawel. Enillodd Tsile ei hannibyniaeth yn sgil brwydrau Chacabuco a Maipú (1818).
Arweiniodd San Martín lynges i ymosod ar luoedd Sbaen yn Rhaglawiaeth Periw. Yn sgil buddugoliaeth yn Lima yn 1821, penodwyd San Martín yn Amddiffynnydd Periw. Bu'n cwrdd â Simón Bolívar ar 22 Gorffennaf 1822 yn Guayaquil, Ecwador, a chymerodd Bolívar yr awenau yn chwyldro Periw. Ymddeol o'r fyddin a wnaeth San Martín, ac ymfudodd i Ffrainc yn 1824. Bu farw yn Boulogne-sur-Mer yn 72 oed.
San Martín yw un o arwyr cenedlaethol yr Ariannin a Pheriw, ac un o Libertadores De America. Enwir yr anrhydedd uchaf a wobrwyir gan lywodraeth yr Ariannin, Urdd y Cadfridog San Martín, ar ei ôl.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.