John Conway
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mathemategydd o Loegr oedd John Horton Conway (26 Rhagfyr 1937 – 11 Ebrill 2020). Treuliodd hanner cyntaf ei yrfa hir ym Mhrifysgol Caergrawnt, a'r ail hanner ym Mhrifysgol Princeton, Unol Daleithiau America, lle'r oedd yn Athro Emeritws John von Neumann.
John Conway | |
---|---|
Ganwyd | 26 Rhagfyr 1937 Lerpwl |
Bu farw | 11 Ebrill 2020 o COVID-19 New Brunswick, New Jersey |
Man preswyl | New Brunswick, New Jersey |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | mathemategydd, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Gêm bywyd Conway, Conway group, surreal number, Conway chained arrow notation, Conway criterion, Conway notation, Conway polyhedron notation, Doomsday rule, Look-and-say sequence |
Tad | Cyril Horton Conway |
Mam | Agnes Boyce |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gwobr Pólya, Berwick Prize, Nemmers Prize in Mathematics, Steele Prize for Mathematical Exposition |
Yn ogystal â'i feysydd arbenigol ei hun, gwnaeth gyfraniadau i lawer o ganghennau ym maes mathemateg hamdden, ac mae'n fwyaf adnabyddus fel dyfeisiwr yr awtomatiaeth cellog o'r enw Gêm Bywyd.
Bu farw yn ei gartref yn New Jersey yn Ebrill 2020 wedi dal y clefyd COVID-19.
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.