From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Ffrainc yw Jean-Pierre Rives (ganed 31 Rhagfyr 1952 yn Toulouse), a enillodd 59 o gapiau dros Ffrainc fel blaenasgellwr.
Jean-Pierre Rives | |
---|---|
Ganwyd | 31 Rhagfyr 1952 Toulouse |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | actor, cerflunydd, chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 180 centimetr |
Pwysau | 85 cilogram |
Mudiad | Mynegiadaeth Haniaethol |
Gwobr/au | Officier de l'ordre national du Mérite |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Football club TOAC TOEC rugby, Q3495932, Stade Toulousain, Racing 92, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Ffrainc |
Safle | blaenasgellwr |
Chwaraeodd Rives rygbi i glybiau TOEC, Beaumont a Stade Toulousain, yna yn 1981 gadawodd Toulouse i ymuno â Racing Club de France.
Chwaraeodd dros Ffrainc ar bob lefel: ysgolion, ieunctid, prifysgolion a lefel B cyn cyrraedd y tîm cenedlaethol llawn. Bu'n gapten Ffrainc mewn 34 gêm, record y byd ar y pryd, a chwaraeodd yn y tîm a gyflawnodd Y Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad yn 1977 a 1981. Rives oedd y capten pan gurodd Ffrainc y Crysau Duon yn Seland Newydd am y tro cyntaf erioed. Etholwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn yn Ffrainc yn 1977, 1979 a 1981.
Roedd yn ddylanwadol pan wnaeth Ffrainc gais llwyddiannus am fod yn lleoliad Cwpan y Byd yn 2007.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.