From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd adain-dde o Awstria oedd Jörg Haider (26 Ionawr 1950 – 11 Hydref 2008).
Jörg Haider | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ionawr 1950 Bad Goisern am Hallstättersee |
Bu farw | 11 Hydref 2008 Köttmannsdorf |
Dinasyddiaeth | Awstria |
Addysg | Doethur mewn Cyfraith |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes, cyfreithiwr |
Swydd | aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, aelod o Gyngor Cenedlaethol Awstria, governor of Carinthia, governor of Carinthia, chairman of the Freedom Party of Austria, BZÖ Chairman, member of the Landtag of Carinthia |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Austrian Freedom Party, Alliance for the Future of Austria |
Plant | Ulrike Haider-Quercia |
Gwobr/au | Grand Cross of the Order of Honour for Services to the Republic of Austria |
Ganed ef yn Bad Goisern. Yn 1968, aeth i Fienna i astudio'r gyfraith, gan raddio o Brifysgol Fienna yn 1973. Yn ddiweddarach, roedd ar staff Adran y Gyfraith yno.
Ymunodd a Plaid Rhyddid Awstria (FPÖ), ac yn 1986 etholwyd ef yn arweinydd y blaid. yn 1989, daeth yn llywodraethwr talaith Carinthia. Dan arweiniad Haider, symudodd yr FPÖ ymhellach i'r dde, gan wrthwynebu mewnfudiad a'r Undeb Ewropeaidd. Ymddiswyddodd fel arweinydd y blaid yn 2000. Yn 2005, cyhoeddodd Haider ac araill eu bod yn ffurfio plaid newydd, Bündnis Zukunft Österreich (BZÖ, "Cynghrair Dyfodol Awstria"), gyda Haider fel arweinydd.
Lladdwyd ef mewn damwain ger Klagenfurt yn nhalaith Carinthia, pan aeth ei fodur Volkswagen Phaeton oddi ar y ffordd a throi drosodd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.