From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr iaith arwyddion fwyaf poblogaidd gan bobl fyddar yn y DU yw Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg: British Sign Language neu BSL). Mae 125,000[1] o oedolion byddar yn y DU yn defnyddio'r iaith, yn ogystal â thua 20,000 o blant. Mae'r iaith yn defnyddio gofod a symudiad y dwylo, y corff, yr wyneb a'r pen i gyfathrebu. Mae miloedd o bobl nad ydynt yn fyddar hefyd yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, megis perthnasau, cyfieithwyr, staff meddygol neu eraill sy'n ymwneud â'r gymuned fyddar.
Cydnabyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig Iaith Aryddion Prydain fel iaith ar 18 Mawrth 2003. Ar 28 Ebrill 2022 cydnabyddwyd BSL fel swyddogol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Mae'r wythnos oddeutu 28 Ebrill bellach yn Wythnos Iaith Arwyddo.[2]
Arwyddir 'Cymru' (y wlad) mewn BSL fel crafanc Draig Goch Cymru yn sgathru am lawr.[3]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.