Hilaire Belloc

llenor Saesneg (1870-1953) From Wikipedia, the free encyclopedia

Hilaire Belloc

Llenor Eingl-Ffrengig oedd Joseph Hilaire Pierre René Belloc (27 Gorffennaf 187016 Gorffennaf 1953). Awdur hynod o doreithiog ac amryddawn ydoedd a ysgrifennai ysgrifau, gweithiau hanesyddol a bywgraffiadau, llyfrau taith, traethodau ar bynciau crefyddol a gwleidyddol, rhyddiaith ddychanol, straeon a rhigymau i blant, a barddoniaeth ddigrif. Cyhoeddodd mwy na 150 o lyfrau yn ystod ei oes.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Hilaire Belloc
Thumb
GanwydJoseph Hilaire Pierre René Belloc 
27 Gorffennaf 1870 
La Celle-Saint-Cloud 
Bu farw16 Gorffennaf 1953 
Guildford 
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ffrainc, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon 
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, gwleidydd, newyddiadurwr, hanesydd, cofiannydd 
SwyddAelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, arlywydd 
Arddulltraethawd 
Prif ddylanwadJohn Henry Newman, G. K. Chesterton 
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol 
TadLouis Belloc 
MamBessie Rayner Parkes 
PriodElodie Agnes Hogan Belloc 
PlantEleanor Belloc, Louis Belloc, Peter Gilbert Marie Sebastian Belloc 
LlinachBelloc family 
Gwobr/auKnight Commander with Star of the Order of St. Gregory the Great, Taylorian Lecture 
llofnod
Thumb
Cau

Bywgraffiad

Bywyd cynnar

Ganwyd yn La Celle-Saint-Cloud yn hen département Seine-et-Oise, Ffrainc, ger y brifddinas Paris. Ffrancwr oedd ei dad a Saesnes oedd ei fam. Ei chwaer hŷn oedd Marie, yn ddiweddarach y nofelydd Marie Belloc Lowndes. Bu'n rhaid i'r teulu ffoi i Loegr oherwydd Rhyfel Ffrainc a Phrwsia. Bu farw ei dad yn 1872, a threuliodd ei fagwraeth yn Lloegr y bennaf.

Mynychodd ysgol breswyl Gatholig yr Oratory yn Birmingham, a gadawodd yn 1887. Gweithiodd am gyfnod fel newyddiadurwr cyn iddo wasanaethu yn Llynges Ffrainc. Cafodd waith hefyd fel stiward ar diroedd Dug Norfolk a drafftsmon pensaernïol cyn iddo fynd i'r brifysgol yn 1892. Astudiodd hanes yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, a derbyniodd ei radd yn 1895. Yno bu'n Llywydd Undeb Rhydychen, y gymdeithas ddadlau. Priododd yr Americanes Elodie Hogan yn 1896.

Gyrfa wleidyddol

Daeth Belloc yn ddeiliad Prydeinig yn 1902. Ymunodd â'r Blaid Ryddfrydol a chafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Dde Salford yn 1906. Gadawodd y Senedd yn 1910.

Ffrindiau a ffraeon

Un o gyfeillion agosaf Belloc oedd G. K. Chesterton, a chynhyrchwyd cyfnodolyn ceidwadol wythnosol, y New Witness, gan y ddau lenor o 1911 ymlaen. Gelwid y pâr yn "Chesterbelloc" gan George Bernard Shaw.

O ganlyniad i'w weithiau polemig, bu Belloc yn aml yn ymgecru â dynion amlwg eraill. Un o'r gelyniaethau ffyrnicaf oedd rhyngddo a H. G. Wells, a ffrwydrodd wedi i Belloc ysgrifennu ymateb i'r Outline of History gan Wells yn 1926.

Diwedd ei oes

Ymsefydlodd yn Sussex am y mwyafrif o'i oes, er iddo deithio'n fynych drwy gydol ei fywyd. Roedd yn hoff o hwylio cychod.

Dioddefodd Belloc gyfres o strociau yn y 1940au, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w waith. Treuliodd deng mlynedd olaf ei oes yn ei gartref King's Land, melin geitlen ym mentref Shipley, Gorllewin Sussex. Bu farw yn 82 oed mewn cartref nyrsio yn Guildford, Surrey, ychydig dyddiau wedi iddo ddioddef llosgiadau o'r tân yn ei astudfa.

Ei gredoau a'i ysgrifau crefyddol

Pabydd pybyr oedd Belloc ers ei ieuenctid. Yn ystod ei ddyddiau ysgol daeth i sylw'r Cardinal John Henry Newman, sefydlydd yr Oratory. Pan oedd yn ddyn ifanc, daeth Belloc i adnabod y Cardinal Henry Edward Manning a gafodd ddylanwad cryf arno. Effeithiodd ei daliadau Catholig ar ei holl waith llenyddol, bron. Un o'i lyfrau enwocaf yw The Path to Rome (1902), llyfr taith sydd yn drwm yn ei fyfyrdodau ysbrydol.

Barddoniaeth a ffuglen

Ysgrifennodd Belloc sawl cyfrol o farddoniaeth frathog ac afiach i blant: The Bad Child's Book of Beasts (1896), More Beasts (for Worse Children) (1897), a Cautionary Tales for Children (1907), yr olaf o'r rhain sydd yn boblogaidd hyd heddiw. Ysgrifennodd nifer o gerddi tebyg i oedolion a gesglid yn Verses and Sonnets (1896), The Modern Traveller (1898), Heroic Poem in Praise of Wine (1932), a chyfrolau eraill.

Ysgrifennodd Belloc sawl nofel ddychanol, a ddarluniwyd ambell un gan G. K. Chesterton.

Llyfrau hanes a bywgraffiadau

Ysgrifennodd Belloc nifer o lyfrau hanes, er bod ei daliadau crefyddol yn aml yn llywio'i waith. Ymhlith ei fywgraffiadau mae Danton (1899), Robespierre (1901), James II (1928), Wolsey (1930), Charles I (1933), Cromwell (1934), a Charles II (1939).

Ysgrifau gwleidyddol ac economaidd

Belloc a'i gyfaill G. K. Chesterton oedd arloeswyr pennaf dosraniadaeth, ideoleg economaidd o safbwynt Catholig sydd yn gwrthod cyfalafiaeth a sosialaeth Ffabiaidd fel ei gilydd. Lluniodd Belloc ei athroniaeth economaidd yn The Servile State (1912).

Edmygai Belloc syniadau gwleidyddol ac economaidd William Cobbett, newyddiadurwr ac Aelod Seneddol radicalaidd o'r 19g.

Darllen pellach

  • Jay P. Corrin, G. K. Chesterton and Hilaire Belloc: The Battle against Modernity (Athens, Ohio: Ohio University Press, 1981).
  • Rober Hamilton, Hilaire Belloc: An Introduction to His Spirit and Work (Llundain: Douglas Organ, 1945).
  • Eleanor Jebb a Reginald Jebb, Belloc, the Man (Westminster, Maryland: Newman Press, 1957).
  • John P. McCarthy, Hilaire Belloc: Edwardian Radical (Indianapolis: Liberty Press, 1973).
  • J. B. Morton, Hilaire Belloc: A Memoir (Efrog Newydd: Sheed & Ward, 1955).
  • Robert Speaight, The Life of Hilaire Belloc (Llundain: Hollis & Carter, 1957).
  • Frederick Wilhelmsen, Hilaire Belloc: No Alienated Man (Efrog Newydd: Sheed & Ward, 1953).
  • A. N. Wilson, Hilaire Belloc: A Biography (Llundain: Hamish Hamilton, 1984).
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.