From Wikipedia, the free encyclopedia
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru oedd Haydn Tanner (9 Ionawr 1917 – 5 Mehefin 2009). Enillodd 25 o gapiau dros Gymru fel mewnwr.
Haydn Tanner | |
---|---|
Haydn Tanner ar fin sgorio yn erbyn Seland Newydd, Abertawe v Seland Newydd, 29 Hydref 1945 | |
Ganwyd | 9 Ionawr 1917 Cymru |
Bu farw | 5 Mehefin 2009 Caerlŷr |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Abertawe, Bristol Bears, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig |
Safle | Mewnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganed Tanner ym Mhenclawdd ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Gowerton. Roedd yn dal yn ddisgybl yno pan chwaraeodd i Abertawe yn erbyn y Crysau Duon yn St. Helens yn 1935. Enillodd Abertawe y gêm o 11 pwynt i 3, gyda Tanner a'i gefnder Willie Davies yn chwarae'n arbennig o dda. Neges capten y Crysau Duon, Jack Manchester, i'w gyrru'n ôl i Seland Newydd oedd "Dywedwch wrthyn nhw ein bod ni wedi colli, ond peidiwch â dweud ein bod wedi cael ein curo gan bàr o fechgyn ysgol!"
Ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn enillodd Tanner ei gap cyntaf dros Gymru. Roedd yn 18 mlwydd ac 11 mis oed, ac un un o'r chwaraewyr ieuengaf i ymddangos dros Gymru. Roedd y gêm yma eto yn erbyn y Crysau Duon, ac unwaith eto roedd tîm Tanner yn fuddugol. Aeth ymlaen i ennill 25 o gapiau, er i'r Ail Ryfel Byd dorri ar ei yrfa. Roedd ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Ffrainc yn 1949.
Aeth Tanner ar daith i Dde Affrica gyda'r Llewod Prydeinig yn 1938 a chwaraeodd ymhob un o'r tair gêm brawf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.