plas hanesyddol yn Nhregynon, Powys From Wikipedia, the free encyclopedia
Plasdy hanesyddol yw Gregynog, a leolir yng nghymuned Tregynon, Powys. Mae'n cael ei redeg heddiw fel canolfan cynadleddau gan Brifysgol Cymru. Roedd yn rhodd i'r brifysgol ym 1963 gan y chwiorydd Margaret a Gwendoline Davies, wyresau'r gŵr busnes llwyddiannus, David Davies Llandinam. Mae'n gartref i Wasg Gregynog sy'n argraffu llyfrau cain mewn argraffiadau cyfyngedig.
Math | plasty gwledig, gardd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Gregynog |
Lleoliad | y Drenewydd, Tregynon |
Sir | Tregynon |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 201 metr |
Cyfesurynnau | 52.5675°N 3.3522°W |
Cod post | SY16 3PW |
Perchnogaeth | Prifysgol Cymru, Ymddiriedaeth Gregynog |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Hyd at 1914 roedd y rhan fwyaf o dir a ffermydd Tregynon, Betws Cedewain a'r cylch yn rhan o ystâd Gregynog.
Er 1932, cynhelir Gŵyl Gerddoriaeth Gregynog yno, sydd wedi denu rhai o enwau mawr y byd cerddorol fel Ralph Vaughan Williams, Gustav Holst, Benjamin Britten ac Edward Elgar.
Mewn cerdd gan Gynddelw Brydydd Mawr (1150-1200) y mae’r sôn cyntaf am yr enw Gregynog (ar y ffurf Grugunawg) fel llys neu enw ardal o bosibl: Grugunawg eryr Grugunan gynneddf ‘Arwr Grugynog a chanddo gynneddf [yr arwr] Gruganan’. Daeth yr enw lle Grugunawg o enw dyn Grugun, a’r enw hwnnw’n cynnwys yr elfen grug ‘heather’.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.