Y Coleg etholiadol yw'r sefydliad sy'n ethol arlywydd ac is-arlwydd yr Unol Daleithiau, bob 4 mlynedd. Nid yw dinasyddion yr UDA yn ethol yr arlywydd a'r is-arlwydd yn uniongyrchol, yn hytrach maent yn ethol "etholwr" sydd fel arfer yn addo pleidleisio am ymgeisydd penodol.[1][2][3]
- Yn yr erthygl hon mae'r term "etholwr" yn cyfeirio at "elector", sef cynrychiolydd talaith gyfan, neu ran ohoni.
Mae "etholwyr" yn cael eu penodi i bob un o'r 50 talaith yn ogystal ag i Ardal Columbia (a elwir hefyd yn Washington, D.C.).
Mae nifer yr "etholwyr" ym mhob talaith yn cyfateb i nifer aelodau Cyngres yr Unol Daleithiau.[4] Caniateir, drwy'r Twenty-third Amendment i Ddosbarth Columbia gael cynifer o "etholwyr" ag sydd gan y dalaith gyda'r nifer lleiaf o etholwyr: 3 ar hyn o bryd. Yn 2016 roedd cyfanswm o 538 etholwr, yn cyfateb i 435 Cynrychiolydd o Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau (House of Representatives) a 100 Seneddwr. Yn ogystal â hyn ceir y 3 ychwanegol o Ddosbarth Columbia (Washington, D.C.). Ni all swyddog ffederal fod yn etholwr.
Y dulliau pleidleisio
Ers y 1880au, mae pob talaith ar wahân i Maine a Nebraska wedi dewis y dull pleidleisio a elwir ganddynt yn "winner-take-all".[5] Hynny yw, mae'r "etholwr" a ddewisir yn tyngu llw y gwnaiff bleidleisio dros yr ymgeisydd arlywyddol sy'n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau gan y dalaith gyfan. Mae dwy dalaith, Maine a Nebraska, fodd bynnag wedi dewis y dull a elwir yn "congressional district method", drwy rannu eu talaith yn dair rhanbarth, gydag un etholwr ym mhob un o'r rhanbarthau hyn yn cael ei ethol drwy bleidlais poblogaidd a'r ddau arall drwy bleidlais talaith gyfan.
Nid oes deddf yn mynnu fod yn rhaid i'r etholwr fod yn driw i bleidleiswyr ei dalaith hy eu cynrychioli, a chafwyd enghreifftiau yn y gorffennol pan y pleidleisiodd yn wahanol i fwyafrif ei dalaith.[6] Oherwydd hyn aeth ambell dalaith ati i sicrhau fod eu cynrychiolydd (eu hetholwr) yn dilyn barn y mwyafrif, ond yn gyfansoddiadol, nid yw'r fath lwon yn dal dŵr.[7]
Mae'r Twenty-third Amendment yn gofyn i'r etholwr fwrw dwy bleidlais - y naill i'r arlywydd a'r llall i'r dirprwy arlywydd.[8][9]
Yn 21 o'r taleithiau ni cheir deddfau sy'n clymu'r etholwr i bleidleisio yn ôl ei addewid, i drwch y mwyafrif.[10] Mewn 29 talaith (a Dosbarth Columbia) ceir deddfau pwrpas i gosbi'r etholwr sy'n torri'r llw (faithless elector) ac yn pleidleisio'n wahanol, ond ni orfodwyd y deddfau hyn ar unrhyw achlysur hyd yma (2016). Mae gan Michigan a Minnesota ddeddfau sy'n gwneud pleidlais di-ffydd yr etholydd yn anghyfreithlon ac yn ddi-rym ("void").[11]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.