Gian Lorenzo Bernini

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gian Lorenzo Bernini

Pensaer a cherflunydd o'r Eidal oedd Gian Lorenzo Bernini (7 Rhagfyr 1598 - 28 Tachwedd 1680). Ysgrifennir ei enw cyntaf hefyd fel Gianlorenzo. Gweithiai yn yr arddull Baroc.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Gian Lorenzo Bernini
Thumb
Ganwyd7 Rhagfyr 1598 
Napoli 
Bu farw28 Tachwedd 1680 
Rhufain, Palazzi Bernini (Rome) 
Man preswylHouse of Pietro and Gianlorenzo Bernini (Rome), Palazzi Bernini (Rome) 
Dinasyddiaethyr Eidal 
Galwedigaethcerflunydd, arlunydd, arlunydd, pensaer, drafftsmon, cynllunydd 
Adnabyddus amPalazzo Barberini, Piazza San Pietro, Ecstasy of Saint Teresa, Bust of Costanza Bonarelli, Sant'Andrea al Quirinale, Four Rivers Fountain, Portrait of Louis XIV of France, Neptune and Dolphin, Truth, Bust of Pope Gregory XV 
Arddullcelf Gristnogol, celf tirlun, noethlun, portread, caricature 
MudiadBaróc 
TadPietro Bernini 
PriodCaterina Tezio 
PlantDomenico Bernini 
LlinachBernini 
Cau
Thumb
Sgwar Sant Pedr

Gabed Bernini yn Napoli. Rhwng 1656 a 1667, bu'n gyfrifol am adeiladu'r Piazza San Pietro yn Rhufain, y sgwar o flaen Basilica Sant Pedr, ar orchymyn Pab Alexander VII. O gwmpas y sgwar mae 284 o golofnau Dorig, gyda 140 o gerfluniau arnynt. Yn y canol, mae obelisc Eifftaidd, a gariwyd i Rufain yn 39 OC ar orchynyn yr ymeradwr Caligula.

Bu gan Bernini, gyda'i gystadleuydd mawr Francesco Borromini, ddylanwad fawr ar gynllun dinas Rhufain fel y mae heddiw. Mae hefyd yn adnabyddus fel cerflunydd; ei waith enwocaf efallai yw ei gerflun Dafydd.

Gweithiau Bernini

  • Pont yr Angylion yn Rhufain
  • Piazza San Pietro yn Rhufain
  • Baldachin Bernini ym Masilica Sant Pedr, Rhufain
  • Beddrod Alexander VII
  • Dafydd yn yr amgueddfa Galleria Borghese yn Rhufain
  • Apollo a Daphne yn y Galleria Borghese
  • Neifion a Triton
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.