From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwleidydd o Frasil oedd Getúlio Dorneles Vargas (19 Ebrill 1882 – 24 Awst 1954) a wasanaethodd yn swydd Arlywydd Brasil yn y ddau gyfnod 1930–45 a 1951–54.
Getúlio Vargas | |
---|---|
Ganwyd | 19 Ebrill 1882 São Borja |
Bu farw | 24 Awst 1954 o anaf balistig Catete Palace |
Dinasyddiaeth | Brasil |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd |
Swydd | federal deputy of Rio Grande do Sul, Arlywydd Brasil, Arlywydd Brasil, member of the Senate of Brazil |
Plaid Wleidyddol | Brazilian Labour Party, Republican Party of Rio Grande do Sul |
Tad | Manuel do Nascimento Vargas |
Mam | Cândida Francisca Dornelles |
Priod | Darci Vargas |
Plant | Lutero Vargas, Alzira Vargas, Jandira Vargas, Manuel Sarmanho Vargas, Getúlio Vargas Filho |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Urdd yr Eryr Gwyn, Uwch Groes y Marchog gyda Choler Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch Groes Dosbarth Arbennig Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr y Groes Uwch Genedlaethol o Groes y De, Urdd Teilyngdod y Llynges, Uwch Groes Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf, Grand Cross of the Military Order of Avis, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler |
llofnod | |
Ganwyd yn nhalaith Rio Grande do Sul, a gwasanaethodd yn y fyddin ac astudiodd y gyfraith cyn iddo droi'n wleidydd. Cafodd ei ethol i'r Gyngres Genedlaethol ym 1922, ac wedi iddo gyflawni tymor o pedair blynedd fe gafodd ei benodi yn weinidog cyllid yn llywodraeth yr Arlywydd Washington Luís. Ym 1928 cafodd Vargas ei ethol yn llywodraethwr Rio Grande do Sul. Collodd etholiad arlywyddol 1930, ond ym mis Hydref y flwyddyn honno fe gipiodd grym mewn chwyldro.
Llywodraethodd Vargas ei wlad am bymtheg mlynedd, y mwyafrif o'r cyfnod hwnnw heb y gyngres. Yn ôl ei wrthwynebwyr unben ydoedd, ond cafodd ei gefnogi fel arweinydd sefydlog yn ystod oes o ffasgaeth a chomiwnyddiaeth. Ar 29 Hydref 1945 cafodd ei ddymchwel, ond parhaodd ei yrfa wleidyddol a chafodd ei ethol yn seneddwr i Rio Grande do Sul. Ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth eto ym 1950, fel ymgeisydd y Blaid Lafur. Dychwelodd i'r arlywyddiaeth ar 31 Ionawr 1951. Erbyn 1954 wynebai Vargas gwrthwynebiad i'w lywodraeth o sawl ochr, ac fe saethodd ei hunan yn farw yn hytrach nag ymddiswyddo.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.