Corff sy'n gyfrifol am weinyddu a threfnu tîm Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad From Wikipedia, the free encyclopedia
Gemau'r Gymanwlad Cymru (Saesneg: Commonwealth Games Wales) yw'r corff arweiniol ar gyfer chwaraeon y Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru. Ei enw blaenorol oedd Cyngor Gemau Gymanwlad Cymru (Commonwealth Games Council for Wales). Dyma'r corff sy'n gweithredu fel corff llywodraethu Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru.
Olivia Breen yn 2022 | |
Enghraifft o'r canlynol | Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Gwladwriaeth | Cymru |
Gwefan | https://teamwales.cymru |
Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn gyfrifol am ddewis, paratoi ac arwain Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad a Gemau Ieuenctid y Gymanwlad. Ar gyfer y Gemau, ei nod yw paratoi'r tîm gorau posibl, gan greu amgylchedd i'w hysbrydoli a chynnig arweinyddiaeth gref iddynt. Maent hefyd yn anelu at godi ymwybyddiaeth o'r Gymanwlad ei hun drwy sicrhau cyswllt ag unigolion yng Nghymru a chymunedau Cymreig ledled y Gymanwlad.[1]
Mae GGC yn un o blith 70 Cymdeithasau Cenedlaethol Gemau'r Gymanwlad (Commonwealth Games Associations) sy'n aelodau o Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (y Ffederasiwn). Y Ffederasiwn yw rhiant gorff y Gemau, ac mae'n gyfrifol am gyfeiriad a rheolaeth y Gemau. Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru yn un o ddim ond chwe gwlad sydd wedi cystadlu ym mhob un o'r Gemau ers eu lansio yn 1930.[2]
Aelodau'r Bwrdd yn 2020:
Ceir dau aelod o staff llawn amser i Gemau'r Gymanwlad Cymru
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.