Gaius Cassius Longinus

From Wikipedia, the free encyclopedia

Gaius Cassius Longinus

Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd a rhan amlwg yn y cynllwyn o lofruddio Iŵl Cesar oedd Gaius Cassius Longinus (bu farw Hydref 42 CC).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Gaius Cassius Longinus
Thumb
Ganwydc. 82 CC 
Rhufain hynafol 
Bu farw42 CC 
o gwaediad 
Philippi 
DinasyddiaethRhufain hynafol 
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig 
Swyddtribune of the plebs, quaestor, Praetor, llywodraethwr Rhufeinig, moneyer 
TadGaius Cassius Longinus 
MamUnknown 
PriodJunia Tertia 
PlantCassius 
LlinachCassii Longini 
Cau

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am ei ieuenctid. Yn 53 CC roedd yn dal swydd quaestor, a chymerodd ran yn ymgyrch Crassus yn erbyn y Parthiaid. Pan orchfygwyd Crassus ger Carrhae, llwyddodd Cassius o achub rhan o'r fyddin, ac yna amddiffyn Syria rhag y Parthiaid. Yn 49 CC a 48 CC, roedd yn llyngesydd ar ran o lynges Pompeius. Wedi Brwydr Pharsalus, rhoddodd Iŵl Cesar bardwn iddo.

Roedd yn briod a Iunia Tertia, chwaer Marcus Junius Brutus. Roedd ganddo ran amlwg gyda Brurus yn llofruddiaeth Cesar ar 15 Mawrth 44 CC. Yn fuan wedyn, gadawodd Rufain am Syria, lle gorchfygodd Dolabella mewn brwydr ger Laodicea.

Yn 42 CC, croesodd ef a Brutus i Thrace i wynebu Marcus Antonius a Gaius Octavianus (yr ymerawdwr Augustus yn ddiweddarach. Ym Mrwydr Gyntaf Philippi, gorchfygwyd y rhan o'r fyddin yr oedd Cassius yn gyfrifol amdani gan fyddin Antonius, a lladdodd Cassius ei hun.

Cassius mewn llenyddiaeth

  • Mae Dante Alighieri yn gosod Cassius gyda Brutus a Judas Iscariot yn rhan isaf Uffern yn Inferno, rhan o'i Divina Commedia (Inf., XXXIV, 64-67), yn cael eu cnoi yng ngenau Satan.
  • Mae Cassius yn un o'r prif gymeriadau yn y ddrama Julius Caesar gan William Shakespeare, lle'r awgrymir mai cenfigen oedd yn ei symbylu i ladd Cesar, yn wahanol i Brutus, oedd a chymhellion uwch.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.