menyn cliriwyd o'r India From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae gî (Saesneg: ghee neu gee; Hindi: घी, घृत, trawslythrenni: Ghṛta, "ysgeitiwyd" "sprinkled) yn fath o fenyn wedi'i glirio (clarify), a ddefnyddir yn eang mewn bwyd Indiaidd. Fe'i gwneid â llaeth buwch neu byfflo. Fe'i hystyrir yn fraster iachach na menyn, gyda sawl budd iechyd.[1] Mae'n debyg iawn i Manteiga-da-terra/Manteiga-de-garrafa ("menyn y wlad/potel") Brasil. Defnyddir gî fel saim ar gyfer cogino - ffrio bwydydd fel rheol - mewn modd tebyg i goginio wrth ffrio olew olewydd neu fenyn mewn padell.
Enghraifft o'r canlynol | Bengali cuisine, Indian cuisine |
---|---|
Math | ymenyn clir |
Gwlad | India |
Enw brodorol | घी |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhyrchir Gî, fel rheol, trwy fudferwi menyn, gan rannu'r darn hylif oddi ar y gwaddol mwy solet hufennog. Caiff amhureddau eu sgimio oddi ar y wyneb a'i arllwys gan gadw'r braster hylir clear. Dileuir y gwaddol solet sydd wedi setlo i waelod y badell neu sosban wrth fudferwi. Gellir ychwanegu sbeisys ar gyfer blas. Mae gwead, lliw a blas y gî yn dibynnu ar ansawdd y menyn, y ffynhonnell laeth a ddefnyddir yn y broses a hyd yr amser a dreulir yn berwi.
Ystyrir bod sawl mantais iachus i goginio gyda gî:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.