Mae Foel Goch yn fynydd 831 meter (2726 troedfedd) yn y Glyderau yn Eryri, cyfeiriad grid SH628612.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 831 metr |
Cyfesurynnau | 53.130372°N 4.051322°W |
Cod OS | SH6286161214 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 76 metr |
Rhiant gopa | Y Garn (Glyderau) |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Lleoliad
Saif ar y grib sy'n arwain tua'r gogledd o gopa Y Garn, ar hyd ochr orllewinol Nant Ffrancon, yn cael ei wahanu oddi wrth Y Garn gan Fwlch y Cywion. Ymhellach i'r gogledd ar hyd y grib mae Mynydd Perfedd a Carnedd y Filiast.
Uchder
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 755 metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf. Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 831 metr (2726 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 10 Mawrth 2007.
Llwybrau
Gellir ei ddringo o Lyn Ogwen, trwy ddilyn y llwybr heibio Llyn Idwal a dringo i'r grib ger y Twll Du. Yna gellir dringo Y Garn gyntaf ac yna ymlaen i gopa Foel Goch. Gerllaw mae Llyn y Gaseg-fraith
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.