From Wikipedia, the free encyclopedia
Offeryn cerdd gyda phedwar tant ydy’r fiola, sy'n cael ei chanu (fel arfer) gyda bwa. Hwn yw ail lais yn nheulu'r feiolin o offerynnau, sydd rhwng sain ffidil a sielo. Mae tannau'r fiola yn cael eu tiwnio i C, G, D, A (o'r gwaelod), yn dechrau ar y C wythfed o dan C ganol. Gall rhai sy'n anghyfarwydd â'r offerynnau gymysgu rhwng ffidil a fiola oherwydd maint a chywair tebyg yr offerynnau, ond mae tannau fiola wedi eu tiwnio pumed perffaith yn is ac felly mae ganddi sain fwy llawn ac aeddfed. Defnyddir y fiola’n aml ar gyfer yr harmonïau yng ngherddoriaeth yn hytrach na'r brif alaw oherwydd yr elfennau yma o'i llais.
Mae gwneuthuriad y fiola'n debyg iawn i'r ffidil, ond mae'n fwy ac yn amrywio mwy yn ei chyfranedd. Mae corff fiola "maint llawn" fel arfer rhwng un a phedwar modfedd yn hirach na ffidil. Caiff meintiau fiola eu mesur mewn modfeddi neu centimedrau, 16 modfedd (41 cm) ar gyfartaledd. Caiff fiolau bychain eu hadeiladu ar gyfer plant sy'n dysgu chwarae. Maen nhw cyn lleied â 12 modfedd (30 cm), sy'n cyfateb i ffidil hanner maint. Yn aml, caiff ffidil fechan ei thantio gyda thannau fiola ar gyfer plant sydd angen meintiau llai fyth. Yn wahanol i'r ffidil, nid oes maint safonol ar gyfer fiola.
Tra bod fiola'n debyg i ffidil, mae rhai gwahaniaethau yn y dechneg sydd ei angen ar gyfer canu neu chwarae'r fiola. Daw'r gwahaniaeth mwyaf nodweddiadol ym maint yr offeryn, gan alw am fwy o gryfder corfforol i'w chwarae na'r ffidil sy'n llai ac yn ysgafnach.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.