offeryn cerdd chwythbren From Wikipedia, the free encyclopedia
Offeryn cerdd chwythbren yw'r ffliwt; cynhyrchir y sain drwy i'r gwynt a chwythir o'r geg basio dros ymyl twll y ffliwt. Defnyddir y gair 'ffliwten' hefyd mewn rhai mannau. 'Ffliwtydd' yw person sy'n chwythu'r ffliwt.
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | offeryn chwyth, offeryn cerdd chwythbren |
Dyddiad cynharaf | Mileniwm 35. CC |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir y gair, hefyd, yn yr idiom, "Mae hi wedi mynd yn ffliwt!" Hynny yw, fod pethau wedi mynd i'r gwellt. Ystyr arall sydd pan ddywedir "Yr hen ffliwten wirion iddi!"
Gan E. Roberts, yn ei lyfr Crist o'r Cymylau yn Dod i'r Farn, y ceir hyd i'r enghraifft ysgrifenedig gynharaf o'r sillafiad hwn yn y Gymraeg, a hynny yn 1766.
Darganfuwyd math o ffliwt 30,000 - 35,000 o flynyddoedd oed yn yr Almaen - wedi ei chreu o ysgithrau mamoth. Yn 2004 y gwnaed y darganfyddiad hwn. Yn yr un ogof darganfuwyd dwy ffliwt wedi eu gwneud allan o esgyrn alarch; mae'r rhain ymhlith yr offerynnau cerdd hynaf a ddarganfuwyd ar wyneb y Ddaear.
Datblygwyd y Ffliwt Glasurol fodern gan Theobald Boehm yn ystod y 19g. Byddai ffliwtiau cynharaf wedi'u creu o bren fel arfer, gyda bysedd y ffliwtydd yn gorchuddio tyllau i newid y donfedd. Creuoedd Boehm system o allweddi mecanyddol, gan wneud y ffliwt yn haws i'w chwarae a galluogi cyrraedd nodau uwch nag a fu'n bosib o'r blaen. Wrth i dechnegau gwneuthurio wella yn ystod y 19g dechreuwyd creu ffliwtiau o fetal gan gynnwys arian. Mae ffliwtiau gorllewinol modern yn parhau i ddefnyddio system Boehm i raddau helaeth, er bod ychydig newidiadau wedi eu cyflwyno hefyd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.