iaith Germanaidd gogleddol, a siaredir yn Ynysoedd Ffaröe From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o'r ieithoedd Germanaidd Gogleddol yw Ffaröeg, sy'n iaith frodorol i ryw 66,000 o bobl, 45,000 yn byw ar Ynysoedd Ffaröe a'r 21,000 yn Nenmarc a lleoedd eraill.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | West Scandinavian |
Enw brodorol | Føroyskt mál |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | fo |
cod ISO 639-2 | fao |
cod ISO 639-3 | fao |
Gwladwriaeth | Ynysoedd Ffaröe, Brenhiniaeth Denmarc |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Faroese Language Board |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygodd yr iaith Ffaröeg o'r Hen Norseg, ac yn fwy penodol o Hen Norseg y Gorllewin, fel gyda Norwyeg, Islandeg, a'r ieithoedd marw Norn a Norseg yr Ynys Las. Yr iaith gyfoes agosaf i'r Ffaröeg yw'r Islandeg - does dim modd i siaradwyr y ddwy iaith deall ei gilydd, ond o'u hysgrifennu, maen nhw'n ymddangos yn debyg oherwydd bod Ffaröeg yn defnyddio orgraff sy'n seiliedig ar eirdarddiad.
Rheolwyd yr ynysoedd fel rhan o Ddenmarc am ganrifoedd, a sefydlwyd y Daneg yn iaith swyddogol. Yn yr 20fed ganrif, yn enwedig rhwng 1908 a 1938, roedd ymgyrchu brwd dros statws i'r Ffaröeg, gyda thensiynau rhwng pobl oedd o blaid y Ffaröeg ar y naill law a'r Daneg ar y llall. Ym 1937, sefydlwyd Ffaröeg yn iaith addysg, ym 1938 yn iaith yr Eglwys, ac ym 1948 yn iaith genedlaethol fel rhan o ddeddf Ymreolaeth ynysoedd Ffaröe.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.