Evan Rees (Dyfed)
pregethwr, bardd, ac archdderwydd Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd o Sir Benfro a oedd yn un o ffigyrau amlwg byd yr Eisteddfod yn chwarter olaf y 19g oedd Evan Rees (1 Ionawr 1850 – 19 Mawrth 1923), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Dyfed (hefyd Dyfedfab).
Ganed Dyfed ym mhlwyf Cas-mael, Sir Benfro, yn 1850, ond cafodd ei fagu yn Aberdâr ar ôl i'w rieni symud yno. Bu'n gweithio yn y pwll glo lleol am flynyddoedd cyn dod yn weinidog a symud i fyw yng Nghaerdydd.
Cafodd yrfa lwyddiannus fel bardd eisteddfodol. Coron ei yrfa efallai oedd ennill y Gadair yn Eisteddfod Ffair y Byd, Chicago yn 1893. Enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, ym Merthyr Tudful 1881 a 1901, ac o 1905 hyd ei farwolaeth yn 1923 bu'n Archdderwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
Remove ads
Llyfryddiaeth ddethol
- Caniadau Dyfedfab (1875)
- Gwaith Barddonol Dyfed (d.d.)
- Gwlad yr Addewid a Iesu o Nazareth (1894)
- Oriau gydag Islwyn (d.d.)
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
